Ydy deddfau Cymru yn gweithio?

Ar 1 Rhagfyr 2015 fe ddaeth deddf newydd i rym yng Nghymru a oedd yn golygu fod oedolion yn cael eu hystyried yn barod i roi organau oni bai eu bod nhw'n nodi eu gwrthwynebiad.

Ond sut mae'n cymharu gyda rhai o ddeddfau newydd eraill Llywodraeth Cymru? A beth am y rheiny wnaeth ddim gweld golau dydd? Aeth Cymru Fyw i ymchwilio...


Rhoi organau

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Catrin Williams-Jones wedi cael dau drawsblaniad, ac mae'n dweud bod newid rheolau rhoi organau yn 'ffantastig'

Cymru yw'r wlad gyntaf ym Mhrydain i fabwysiadu trefn o'r fath, a'r bwriad oedd y byddai'r newid yn cynyddu nifer yr organau all gael eu defnyddio i drawsnewid bywydau cleifion sy'n ddifrifol wael.

Yr amcangyfrif oedd y gallai'r newid olygu cynnydd o tua 25% yn y nifer sydd yn rhoi organau ar ôl marw.

Ym mis Medi, dywedodd Prif Feddyg Llywodraeth Cymru, Dr Frank Atherton, fod Cymru "yn arwain" yn yr ymdrechion i gynyddu nifer y bywydau sy'n cael eu hachub drwy drawsblannu organau.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething, mae'r ystadegau yn y 12 mis diwethaf yn galonogol ac mae'r newid yn y gyfraith wedi bod yn bositif.

Ers 1 Rhagfyr y llynedd, mae 160 o organau wedi cael eu trawsblannu, gyda 39 o rheiny drwy ganiatâd tybiedig. Mae ffigyrau yn dangos bod 6% o bobl sy'n gymwys yng Nghymru wedi penderfynu tynnu'n ôl o'r cynllun.


Bagiau plastig

Cymru oedd yn arwain y ffordd pan ddaeth hi i gyflwyno tâl o 5c ar y defnydd o fagiau plastig hefyd.

Ond yn 2011 roedd llawer yn poeni am y "dryswch" fyddai'r ddeddf yn ei achosi i siopau a busnesau bach gan nad oedd y rheolau yn ddigon clir.

Er gwaethaf y pryderon, mae'r ddeddf yn cael ei gweld fel un sydd wedi bod yn llwyddiannus ac yn effeithiol, gyda'r defnydd o fagiau plastig yng Nghymru wedi gostwng tua 76% ers i'r ddeddf ddod i rym.

Yn y cyfamser mae'r Alban, Gogledd Iwerddon, ac yn fwy diweddar Lloegr, wedi dilyn esiampl Cymru.


Ysmygu yn y car

Image copyright Thinkstock

O fewn 12 mis cyntaf deddf oedd yn gwneud hi'n anghyfreithlon i ysmygu mewn cerbyd sy'n cludo rhywun o dan 18 oed, cafodd neb eu dirwyo.

Ddeuddeg mis ers dod i rym yn Hydref 2015, doedd yr un o gynghorau Cymru wedi rhoi dirwy - werth £50 - er bod rhai heddluoedd a chynghorau wedi rhoi rhybudd llafar.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gyfraith yn anfon "neges gref" i ysmygwyr. Ond yn ôl Ffederasiwn yr Heddlu, mae'r gwaharddiad yn "anodd" i'w weithredu, gyda'r heddlu yn gorfod cyfeirio troseddwyr at y cynghorau.


Taro plant

Ym mis Mawrth y llynedd fe bleidleisiodd aelodau'r Cynulliad yn erbyn cynnig i wahardd taro plant yng Nghymru.

Roedd Julie Morgan AC wedi cynnig newid i'r mesur Trais yn Erbyn Merched er mwyn dod â diwedd i'r defnydd o "roi cerydd" fel amddiffyniad cyfreithiol am daro plant. Fe bleidleisiodd 36 yn erbyn y cynnig ac 16 o blaid.

Yn y cyfamser, mae Archesgob Cymru Dr Barry Morgan ymysg y rhai sydd wedi galw am ail-ystyried y penderfyniad, gan ddadlau fod "gennym ni i gyd gyfrifoldeb i roi diwedd ar sefyllfa ble mae'r math cyffredin hwn o drais yn dderbyniol yn ddiwylliannol a'n gyfreithiol".