UKIP yn ethol Paul Nuttall fel arweinydd newydd y blaid

Paul Nuttall Image copyright PA

Mae Paul Nuttall wedi ei ethol yn arweinydd newydd UKIP.

Fe wnaeth Mr Nuttall, sy'n olynu Nigel Farage, sicrhau 62.6% o'r bleidlais ymhlith aelodau'r blaid.

Roedd y Cymro John Rees-Evans yn drydydd, gyda'r cyn ddirprwy gadeirydd Suzane Evans yn ail.

Dywedodd arweinydd grŵp y blaid yn y Cynulliad, Neil Hamilton, ei fod wrth ei fodd gyda dewis yr aelodau, a fod gan Mr Nuttal y profiad, y talent a'r weledigaeth i arwain y blaid i lwyddiant etholiadol yn genedlaethol a lleol.

Fe gafodd Mr Nuttall 9,622 pleidlais, Ms Evans 2,973 (19.3%) a Mr Rees-Evans 2,775 (18.1%).

Hon oedd yr ail bleidlais eleni ar gyfer dewis arweinydd.

Fe gafodd Diane James ei hethol yn arweinydd yn gynharach eleni, ond penderfynodd roi'r gorau iddi ar ôl 18 diwrnod yn unig, a hynny cyn iddi afael yn yr awenau'n ffurfiol.