Technoleg ar fin rhoi hwb i'r byd amaeth yng Nghymru?

Gwartheg

Awyrennau di-beilot yn gofalu am y stoc ar y bryniau, tractorau'n gyrru eu hunain.

Efallai bod syniadau fel hyn yn swnio'n hurt ar hyn o bryd, ond mae hi'n debyg y bydd golygfeydd tebyg yn gyffredin yn yr 20 mlynedd nesaf.

Mae Penri James yn ddarlithydd amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn dweud y gallai'r byd amaeth edrych yn wahanol iawn mewn blynyddoedd i ddod.

"Mae 'na rhai ffermydd yn mynd i edrych fel maen nhw nawr," meddai.

"Ond wedi dweud hynny, dy'n ni'n mynd i weld dronau yn yr awyr yn bugeilio o bosib, dy'n ni hefyd yn mynd i weld dronau ar y ddaear yn mynd o amgylch y caeau yn adnabod chwyn - mae hynny'n dechnoleg sy'n bosib."

"Dy'n ni'n mynd i weld tagiau eithaf cymhleth ar anifeiliaid hefyd, sy'n rhoi llawer mwy o wybodaeth am yr anifail 'na. Wedyn bydd rhaid rheoli'r wybodaeth 'na.

"Mae ffermwyr eisoes yn gwneud hyn mewn cylchoedd eithaf cyfyng, ond mae gwneud hyn ar lefel cae, ac ar lefel fferm yn sialens arall."

Image caption Mae Penri James yn meddwl y gall y byd amaeth edrych yn wahanol iawn mewn blynyddoedd i ddod

Mae 'na dechnoleg yn cael ei ddefnyddio yn y byd amaeth yn barod.

Mae nifer o ffermwyr cnydau yn defnyddio synwyryddion ar gaeau llafur i fesur tyfiant dros amser penodol, neu i ddarganfod y man mwyaf ffrwythlon o dir, ac mae rhai gwneuthurwyr tractorau yn gwerthu modelau sy'n gallu gwneud hyn yn barod.

Yng Nghymru, ble mae ffermio stoc yn fwy cyffredin, mae ffermwyr fel Sion Jenkins o Bont-siân hefyd yn defnyddio technoleg o ddydd i ddydd.

"Ni wedi buddsoddi mewn system Moo Call ar y gwartheg sugno eleni," meddai.

"Mae fe'n gyrru tecst atoch chi fel ffermwr i ddweud pryd mae'r fuwch yn dod a llo, ac mae 'di bod yn llwyddiant a dweud y gwir".

Image caption Mae Sion Jenkins yn croesawu'r datblygiadau technolegol

A dyw'r syniad o brynu a defnyddio awyren di-beilot i fugeilio'i ddefaid a'i wartheg ddim yn rhywbeth fyddai Sion yn ei ddiystyru yn y dyfodol.

"Bydd drones yn rhan o'n bywyd a'n gwaith bob dydd ni, a fi'n credu bydd e'n rhywbeth y bydd ffermwyr yn defnyddio efallai i edrych ar stoc sydd ddim yn agos i fuarth y fferm."

"Ar hyn o bryd fentrai ddim, maen nhw lawer rhy ddrud, ond fel mae technoleg yn gwella, ac amser yn mynd yn ei flaen, falle ddaw e'n fforddiadwy, pwy a ŵyr.

"Dyw e ddim yn rhywbeth ni'n mynd i gau drws arno, ond yn sicr mae fe'n rhywbeth byddwn ni edrych arno mewn blynyddoedd i ddod, ac mae fe'n ddatblygiad eithaf diddorol yn y byd amaeth a dweud y gwir".

Ond er mwyn i lawer o'r teclynnau sy'n cael eu datblygu weithio'n effeithiol, mae angen gwella'r cysylltiad i fand-eang cyflym a signal ffôn 4G.

Image caption Dywedodd Rhodri Williams bod cwmnïau yn newid eu hagwedd tuag at gyswllt yng nghefn gwlad

Yn ôl cyfarwyddwr OFCOM yng Nghymru, Rhodri Williams, mae'r cwmnïau perthnasol yn newid eu hagwedd tuag at gyswllt yng nghefn gwlad.

"Dwi'n credu, erbyn hyn, bod 'na ddealltwriaeth bod busnesau amaethyddol, fel unrhyw fusnes arall, ac wrth gwrs busnesau sydd yn byw o gwmpas cymunedau amaethyddol, bod yn rhaid iddyn nhw gal yr un math o gysylltiadau dibynadwy, fforddiadwy, digon cyflym, fel sydd ar gael yn ein trefnu ni erbyn hyn," meddai.

Yn dechnolegol, fel yn wleidyddol, mae'r byd amaeth yn newid yn gyflym - a phwy a ŵyr mewn 20 mlynedd sut yn union fydd y byd hwnnw'n edrych wrth i'r galw am fwyd gynyddu ar draws y byd.