Sevens Cymru Fyw
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Tîm saith-bob-ochr Cymru ar eu ffordd i Dubai

28 Tachwedd 2016 Diweddarwyd 21:36 GMT

Tra bod carfan Rob Howley wedi dychwelyd at eu rhanbarthau yn dilyn Cyfres yr Hydref, mae'r garfan saith-bob-ochr genedlaethol wedi hedfan i Dubai ar gyfer cyfres saith-bob-ochr y byd.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal dros bum cymal yn ystod y flwyddyn gyda'r cyntaf yn y dwyrain canol ddydd Gwener.

Gohebydd Chwaraeon Newyddion 9, Lowri Roberts sydd â'r manylion.