Beiciwr modur yn marw wedi i ddafad redeg o'i flaen

Justin Davies Image copyright Wales news service
Image caption Bu farw Justin Davies ym mis Awst

Mae cwest yn Llanelli wedi clywed i ddyn gael ei ladd ar ôl i ddafad grwydro i lwybr ei feic modur ar ffordd fynyddig.

Roedd Justin Davies, 45, wedi mynd am dro ar ei feic newydd yng ngefn gwlad ym mis Awst eleni, a doedd ond yn teithio 27 milltir yr awr.

Ond fe gafodd dafad gyfagos ei "dychryn", gan redeg i ffwrdd o'i phraidd ac i ganol y ffordd.

Cafodd Mr Davies ei daflu oddi ar ei feic, a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach o anafiadau i'w ben.

Roedd Mr Davies, o Gwm-twrch Isaf ger Abertawe, yn dad i ddau o blant, ac wedi prynu'r beic fis yn unig cyn y digwyddiad.

Dywedodd tyst, Melissa Coles, ei bod hi'n cerdded ar dir comin ger Brynaman yn Sir Gâr pan welodd hi'r defaid yn rhedeg i'r ffordd.

Wrth gofnodi marwolaeth ddamweiniol, dywedodd y crwner Mark Layton: "Roedd Mr Davies yn gyrru ei feic modur ar gyflymder synhwyrol, pan gafodd dafad ei dychryn a rhedeg i'r ffordd.

"Damwain bur oedd hi a doedd dim modd ei hosgoi."

Image copyright Google
Image caption Fe glywodd cwest yn Neuadd y Dref Llanelli bod Justin Davies wedi marw o achos "damwain bur"