Cymro yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio i Lerpwl

Ben Woodburn Image copyright Getty Images
Image caption Ben Woodburn yn dathlu chwalu record Michael Owen

Cymro yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio gôl dros dîm pêl-droed Lerpwl, ag yntau ond yn 17 mlwydd a 45 diwrnod oed.

Fe wnaeth Ben Woodburn chwalu record flaenorol Michael Owen o 98 diwrnod nos Fawrth.

Daeth oddi ar y fainc yn erbyn Leeds yn rownd wyth olaf Cwpan y Gynghrair i sgorio ail gôl Lerpwl, gydag wyth munud yn weddill yn y gêm.

Er bod Woodburn wedi ei eni yn Sir Caer, mae wedi cynrychioli Cymru dan 17 ac 19.

Mae'n dal i fod yn gymwys i chwarae pêl-droed rhyngwladol dros Gymru a Lloegr, ac mae nifer o gefnogwyr Cymru eisoes yn galw ar Chris Coleman i roi cap rhyngwladol iddo er mwyn sicrhau y bydd o'n cynrychioli Cymru yn y dyfodol.

Yn dilyn y gêm dywedodd rheolwr Lerpwl, Jurgen Klopp, ei fod yn "hapus iawn dros Ben".