Aelod Cynulliad Plaid Cymru i fynd gerbron tribiwnlys

Neil McEvoy

Bydd un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn wynebu tribiwnlys ar honiadau iddo ddwyn anfri ar Gyngor Caerdydd yn rhinwedd ei swydd fel cynghorydd lleol.

Yn ogystal â bod yn Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, mae Neil McEvoy yn gynghorydd yn ardal y Tyllgoed, ac yn gyn-ddiprwy arweinydd yr awdurdod lleol.

Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymchwilio i nifer o gwynion, ac maen nhw wedi eu trosglwyddo i Banel Dyfarnu Cymru.

Yn ôl Mr McEvoy, mae yna "gymhelliad gwleidyddol" y tu ôl i'r mater.

Torri côd ymddygiad

Mae'r cwynion yn ymwneud â thorri côd ymddygiad cynghorwyr, sy'n nodi y dylai cynghorwyr:

  • geisio osgoi gwahaniaethu
  • dangos parch ac ystyriaeth i eraill
  • peidio ag ymddwyn mewn modd a allai gael ei ystyried ei fod yn dwyn anfri ar yr awdurdod ar unrhyw adeg.

Fe allai Mr McEvoy wynebu cael ei atal rhag bod yn gynghorydd am hyd at flwyddyn, fyddai'n ei atal rhag sefyll yn etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf, neu ei wahardd o fod yn gynghorydd am hyd at bum mlynedd.

Anaml y mae cwynion yn mynd mor bell â hyn.

Y llynedd, deliodd Ombwdsmon Gwasanethau Cyhoeddus Cymru gyda 112 o gwynion yn erbyn cynghorwyr sir. Dim ond un o'r rheiny gyrhaeddodd y panel dyfarnu.

'Dim i'w guddio'

Dywedodd Neil McEvoy: "Fy mhryder mawr yw cymaint o gymhelliad gwleidyddol sydd y tu ôl i'r achos hwn.

"Ers i mi gael fy ethol yn Aelod Cynulliad, rwyf wedi datgelu grantiau Llywodraeth amheus sydd wedi eu rhoi gan Lafur, a thynnu sylw at lobïo a chytunebau tir sydd wedi colli miliynau o bunnoedd mewn arian trethdalwyr.

"Rwyf wedi dangos cysylltiadau clos iawn rhwng Llafur a lobïwyr masnachol sy'n gweithio er budd corfforaethol, ac wedi dwyn sylw at daliadau gwarthus i bobl ar frig y sector cyhoeddus.

"Rwyf wedi gofyn i'r gwrandawiadau ddigwydd yn gyhoeddus ac iddyn nhw gael eu darlledu fel cyfarfodydd cyngor a Chynulliad. Does gen i ddim byd i'w guddio.

"Rwyf hefyd yn gofyn am ddelio â'r mater ar frys o fewn yr wythnosau nesaf, neu ar ôl yr etholiad fis Mai.

"Rwy'n credu mai prif nod y rhai sy'n rhan o hyn yw i fy atal rhag sefyll yn yr etholiad fis Mai. Mae yna rai sydd â diddordeb personol yng Nghaerdydd sydd ddim eisiau i fi fod yn gwneud penderfyniadau ar ôl mis Mai."

Penderfyniad i'r Panel

Fe allai'r ombwdsmon fod wedi cyfeirio'r mater at bwyllgor safonau Cyngor Caerdydd, ond mae ei gyfeirio i Banel Dyfarnu Cymru yn fwy difrifol oherwydd bod y sancsiynau posib yn llymach.

Wrth ymateb i honiadau Mr McEvoy bod "cymhelliad gwleidyddol" tu ôl i'r achos yn ei erbyn, dywedodd llefarydd ar ran yr Ombwdsmon: "Rôl yr Ombwdsmon yw ystyried ac ymchwilio i gwynion sy'n cael eu cyfeirio iddo am ymddygiad aelodau o awdurdod lleol.

"Wedi ymchwiliad i gŵyn am Gynghorydd Caerdydd Neil McEvoy, daethpwyd i'r canlyniad y dylid cyfeirio'r adroddiad canlynol i Banel Dyfarnu Cymru.

"Swydd tribiwnlys Panel Dyfarnu Cymru yw ystyried a yw'r Cynghorydd McEvoy wedi torri côd ymddygiad Cyngor Caerdydd ai peidio.

"Byddai'n amhridodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd."