Cyflwyno pwyntiau bonws ar gyfer y Chwe Gwlad yn 2017

Leigh Halfpenny Image copyright PA
Image caption A fydd y newid yn golygu llai o giciau cosb gan chwaraewyr fel Leigh Halfpenny?

Mae cyngor Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cyhoeddi y bydd system pwyntiau bonws yn cael ei gyflwyno ar gyfer cystadleuaeth 2017.

Bydd hynny'n golygu bod pwynt ychwanegol ar gael i dîm os ydyn nhw'n llwyddo i sgorio pedair cais mewn gêm, a phwynt ychwanegol ar gael hefyd i unrhyw dîm fydd yn colli gêm o saith pwynt neu lai.

Dywedodd y cyngor bod y newid wedi'i gyflwyno er mwyn ceisio "annog a gwobrwyo sgorio ceisiau a chwarae'n ymosodol".

Mae system o bwyntiau bonws eisoes yn cael ei ddefnyddio'n helaeth mewn cystadlaethau clybiau ar y lefel uchaf, gan gynnwys cwpanau Ewrop, cynghrair y Pro12, ac Uwch Gynghrair Lloegr.

Bydd y system hefyd yn cael ei threialu ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y merched, a'r timau dan-20.

Pedwar pwynt am ennill

Y tymor diwethaf dim ond dau bwynt am ennill ac un pwynt am gael gêm gyfartal yr oedd timau'n ei gael yn nhabl y Chwe Gwlad.

Ond fe fyddan nhw nawr yn cael pedwar pwynt am ennill, a dau am gêm gyfartal - yn ogystal ag unrhyw bwyntiau bonws.

Bydd unrhyw dîm sydd yn llwyddo i ennill y Gamp Lawn - pob un o'u pum gêm - hefyd yn cael tri phwynt ychwanegol.

Byddai hynny'n sicrhau nad oes posibilrwydd y gallai tîm ennill pob gêm, ond nid y bencampwriaeth oherwydd bod eu gwrthwynebwyr wedi casglu mwy o bwyntiau bonws.

Image caption Cymru enillodd y Chwe Gwlad yn 2013 ar ôl trechu Lloegr 30-3 yn y gêm olaf - ond y Saeson fyddai wedi cipio'r bencampwriaeth dan system pwyntiau bonws

"Mae drama a chyffro penwythnos olaf y Chwe Gwlad yn unigryw ac, yn amlach na pheidio, yn cynnwys nifer o dimau ar yr un faint o bwyntiau i gyd yn cystadlu i ddod yn gyntaf," meddai John Feehan, prif weithredwr y Chwe Gwlad.

"Mae'n bwysig i ni sicrhau bod unrhyw system pwyntiau bonws yn cael ei weithredu mewn ffordd fyddai ddim yn tynnu oddi wrth hynny mewn unrhyw ffordd.

"Ar yr un pryd, rydyn ni'n ymwybodol bod yn rhaid i ni wobrwyo sgorio ceisiau a dull ymosodol o chwarae fydd yn dod â mwy o geisiau ac yn well i'r chwaraewyr a'r cefnogwyr."