Artist yn beirniadu'r diwylliant celf Cymreig

Harry Holland
Image caption Mae Harry Holland ymhlith artisitiaid masnachol mwyaf llwyddianus Cymru

Mae arddangosfa o waith newydd yr artist Harry Holland wedi agor yng Nghaerdydd.

Ers y 1970au mae'r paentiwr, sy'n hanu yn wreiddiol o Glasgow, wedi byw yn y brifddinas.

A thra iddo arbenigo gyda'i baentiadau o fenywod noeth, mae hefyd yn ddi-flewyn ar dafod ynglŷn â'r diwydiant celf Cymreig.

"Mae cryn dipyn o bobl nawr yn credu eu bod nhw'n artistiaid," dwedodd wrtha'i yn ei stiwdio ym Mhontcanna. "Syniad sy'n cael ei hyrwyddo'n aml ydy'r meddylfryd bod gan bawb artist y tu fewn iddynt. Wel, mae hynny'n hollol anghywir."

Polisïau 'niweidiol'

Mae gan Holland ddigon o brofiad o lwyddiant ym myd y celfyddydau gweledol i fynegi barn heb boeni gormod am ymateb y diwydiant.

Fe ydy un o artistiaid masnachol mwyaf llwyddiannus Cymru, ac er iddo gyfaddef ei bod hi'n anoddach ers 2008 i werthu lluniau, mae'r ffaith ei fod wedi osgoi derbyn grantiau neu arian cyhoeddus yn ystod ei yrfa yn destun balchder.

Mae Holland hefyd yn feirniadol o lywodraethau a'r sefydliad celfyddydol am ddilyn polisïau sydd wedi bod yn niweidiol i artistiaid Cymreig, yn ei farn ef: "Mae pwyslais amgueddfeydd ar bums on seats i ddenu'r dorf yn benderfyniad mor anghywir.

"Dylai fod modd i bobl dewis ymddiddori yn y celf neu beidio. Mae'r pwyslais ar y niferoedd wedi gostwng safonau, ac wedi arwain at ddiffyg ystyriaeth o ansawdd y gwaith er lles y gynulleidfa."

Ansawdd, a phenderfyniadau'r orielau a'r amgueddfeydd cyhoeddus ynglŷn â'r artistiaid i'w dangos sy'n poeni Harry Holland.

Image copyright Harry Holland/Oriel Martin Tinney
Image caption Dancing Dandies gan Harry Holland

Dywedodd fod diffyg lleisiau beirniadol wrth benderfynu sut i wario arian cyhoeddus ar gelf yn golygu bod neb yn herio gweithiau celf "diflas".

"Maen nhw'n ofni gwneud unrhyw ddyfarniadau ynglŷn ag ansawdd y gwaith, ac yn osgoi dweud 'Mae'r peth yma yn well na'r peth yna.' Byddai storom wleidyddol yn dechrau petai i un ohonyn nhw ddweud 'Sori, dydyn ni ddim yn hoffi'r math yma o gelf, mae'n wael. Celf fideo diflas, paid â thrafferthu.' Pe dywedai rhywun hynna, fydde 'na ddigon o ffwdan.

"Erbyn hyn mae curaduro yn bwysicach na'r celfyddydau, ac yn system ble mae gyrfaoedd yn cael eu creu ar sail pa artistiaid rhyngwladol mae modd arddangos - yn hytrach na pha artistiaid lleol mae'n bosib i chi eu darganfod."

Fe fyddai'r orielau cyhoeddus a'r sefydliadau celf sydd gan Harry Holland mewn golwg yn dadlau bod gan gelf gyfoes, a gweithiau heriol, eu lle ochr yn ochr â thrysorau celfyddydol y genedl sydd hefyd yn hongian ar eu waliau.

'Mwy o feirniadaeth'

Ond os ydy Holland yn sicr o un peth, hynny ydy'r angen am fwy o feirniadaeth a fydd yn ysgogi trafodaeth onest ynglŷn ag ansawdd y gwaith celf sy'n cael eu creu a'u hyrwyddo yng Nghymru.

"Mae pobl yn awyddus i osgoi dweud fod un peth yn well na'r llall, hyd yn oed os ydy'r gwahaniaeth yn hollol amlwg," meddai.

"Dydw i ddim yn hawlio hyn ar gyfer fy ngwaith fy hun yn benodol, ond mae gan rai pobl rhywbeth arbennig i'w dweud, boed hynny oherwydd eu hymrwymiad i ba bynnag sgiliau sydd eu hangen, neu eu gallu i sylwi ar y byd o'u cwmpas ac i ddweud rhywbeth am yr hyn maen nhw'n eu gweld. A dylai'r bobl yna gael eu darganfod, ond dydy hynny ddim yn digwydd ar hyn o bryd."

Tra bod Harry Holland wedi agor arddangosfa newydd yng Nghaerdydd yn y dyddiau diwethaf, mae'n fy atgoffa iddo orffen paentio'r lluniau i'r sioe yma rhai misoedd yn ôl.

Efallai ei fod wedi pasio'i ben-blwydd yn 75, ond dydy ei henaint ddim wedi crebachu ar ei gynnyrch neu ei frwdfrydedd. Mae eisoes wedi dechrau darluniau ar gyfer y sioeau nesaf fydd yn agor yn y blynyddoedd i ddod.