Gwrthdrawiad difrifol rhwng car a beic modur ger Pwllheli

y ffor Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger pentref Y Ffôr

Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ger Pwllheli.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 11:40 fore Iau i'r digwyddiad ar ffordd yr A499 ym mhentref Y Ffôr.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod Toyota 4x4 coch, a beic modur Honda, yn rhan o'r gwrthdrawiad.

"Mae ymchwiliad bellach yn cael ei chynnal a hoffwn glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu'r digwyddiadau yn arwain ato," meddai'r Sarsiant Tony Gatley.