Pump o Gymry yng ngharfan seiclo elît Prydain 2016-17

Owain Doull Image copyright Getty Images
Image caption Mae Owain Doull yn gadael rasio trac am rasio ffordd

Mae pum Cymro a Chymraes wedi eu cynnwys yng ngharfan elît Seiclo Prydain ar gyfer 2016-17.

Pwrpas y rhaglen bodiwm, neu'r podium programme, yw i gynnig cefnogaeth i seiclwyr elît sy'n anelu i ennill medalau yn y prif gystadleuthau.

Mae'r enillwyr medalau aur Olympaidd, Geraint Thomas ac Owain Doull, ynghyd â Luke Rowe wedi eu cynnwys yn y garfan seiclo ffordd.

Yng nghamp y merched mae Elinor Barker, a enillodd fedal aur yn y ras ymlid yn Rio, wedi ei chynnwys yn y garfan rasio dycnwch ar y trac, a Becky James yn y garfan ras wib.

Image caption Elinor Barker