Dirgelwch y Fenai

Darlun o Abermenai tua Cahaernarfon Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Image caption Roedd y fferi o Abermenai i Gaernarfon yn un o chwech oedd yn croesi dyfroedd peryglus y Fenai

Mae dros 300 mlynedd ers i drychineb fferi ar Afon Menai ar Ragfyr y 5ed roi cychwyn ar chwedl am ddyn gafodd ei achub o'r dŵr dair gwaith - mewn tair canrif wahanol.

Bedwyr Rees sy'n rhoi cip ar hanes croesi'r darn o ddŵr tywyllodrus o beryglus yma rhwng Ynys Môn a'r tir mawr a'r stori am ddihangfa ryfeddol fyddai ddim allan o'i le yn un o ffilmiau Back to the Future.


'Stribyn enbyd'

I'r rhai ohonom sy'n byw yn Ynys Môn ac yn gweithio ar y tir mawr, mae'r tagfeydd traffig ar y pontydd dros y Fenai yn gur pen beunyddiol. Ond wrth eistedd yn ein ceir yn diawlio pob bore a nos, efallai y dylem ni gymryd cysur fod croesi'r Afon Fenai wastad wedi achosi problemau.

Mewn gwirionedd, nid afon ydy'r Fenai o gwbl, ond culfor rhwng ynys a thir ehangach.

Mae chwedl boblogaidd yn dweud fod Horatio Nelson yn ystyried mai dyma'r stribyn mwyaf enbyd o fôr yn y byd.

Yn sicr mae llif eithriadol yma, yn torri o amgylch y creigiau dirifedi rhwng y pontydd ac yn ffurfio trobyllau sy'n chwyrlio yn dawel-rymus ar eu hynt ar draws wyneb y dŵr.

Yn y ddeunawfed ganrif, roedd yna gynllun i chwalu'r creigiau i gyd efo powdwr du er mwyn ei gwneud hi'n haws i longau, ond chafodd o ddim mo'i wireddu a does neb, hyd yma, wedi llwyddo i ddofi'r dyfroedd.

Mae pobl wedi bod yn croesi ers miloedd o flynyddoedd wrth gwrs - rhai mewn cychod, rhai wrth gerdded ar draws ehangder Traeth Lafan ar lanw isel.

Image copyright Geograph
Image caption Sgerbwd cwch y Seven Sisters yn Moel y Don, Môn - safle un o fferis eraill y Fenai.

Mae sôn i'r Rhufeiniaid adeiladu pont gynnar wrth raffu ysgraffiau (math o gwch) at ei gilydd er mwyn gallu cerdded o un i un ar draws y dŵr.

Sawl cwch a llong sydd wedi suddo neu ddryllio yma ers y cyfnod yna, pwy a ŵyr? Debyg fod cannoedd o gychod bach wedi eu colli heb sôn am longau mwy fel y Rothsay Castle a suddodd ym 1831 gyda 150 o bobl arni.

Digwyddiad rhyfedd

Mae un o'r straeon rhyfeddaf am groesi yn gysylltiedig â'r fferîau oedd yn rhedeg rhwng Môn ac Arfon am ganrifoedd.

Roedd chwe fferi i gyd ar wahanol adegau, yn teithio o rannau gwahanol o'r Fenai, o Abermenai ar un pen i lanfa Bangor ar y llall. Mae cofnod mewn papur newydd o Awst 22ain, 1822 yn cofnodi cyd-ddigwyddiad rhyfedd iawn ynghlwm â'r fferîau hyn.

Yn ôl y cofnod, ar 5 Rhagfyr 1664 fe suddodd un o'r cychod rhwng Môn ac Arfon gydag 81 o bobl arno. Yr unig un i oroesi oedd gŵr o'r enw Hugh Williams.

Ar yr un dyddiad yn1785, fe suddodd fferi arall gyda tua 60 arni. Unwaith eto, boddodd pawb, oni bai am un dyn o'r enw Hugh Williams.

Yna wedyn, ym mis Awst 1820, cwch arall yn troi gyda 25 y tu mewn iddo. Dim ond un a oroesodd. Ei enw? Ie - Hugh Williams.

Image copyright Iwan Williams
Image caption Cafodd y bont gyntaf dros y Fenai ei hagor gan Thomas Telford yn 1826: erbyn hyn mae galw am drydedd i ymdopi gyda'r traffig

Faint o wirionedd sydd yn y stori hon, a faint sy'n ffrwyth newyddiaduraeth greadigol, mae'n anodd dyfalu.

Roedd Hugh Williams yn enw cyffredin iawn a gyda chynifer o gychod yn suddo dros y canrifoedd, efallai nad yw hi mor syfrdanol â hynny fod rhywun o'r un enw wedi goroesi mewn mwy nag un ohonynt.

Ond wedyn cofiwch chi, mae pethau rhyfedd yn digwydd a'r pethau rhyfeddaf oll yn digwydd ar y môr.

Os byth y bydd fferi'r Fenai yn cael ei hatgyfodi, a'ch bod yn cael eich temptio i groesi ar y dŵr yn hytrach nag ynghanol traffig y pontydd, efallai y dylsech holi enwau eich cyd-deithwyr cyn i chi hwylio!