Llongwr yn diolch am achubiaeth ger Ynys Môn yn 1966

Llong Image copyright RNLI
Image caption Y Nafsiporos cyn i'r badau achub gyrraedd

50 mlynedd ers i griw llong o wlad Groeg gael eu hachub gan fadau achub o Ynys Môn, bydd un o forwyr y llong yn diolch i'r rhai a'i achubodd.

Ar 2 Rhagfyr 1966 aeth criw y Nafsiporos i drafferthion mewn storm oddi ar arfordir yr ynys, ac roedd y llong mewn perygl o ddryllio ar y creigiau.

Roedd gwyntoedd 100 milltir yr awr yn hyrddio ar y pryd, a'r llong mewn tonnau 35 troedfedd o uchder.

Yng nghanol y tywydd garw roedd y criw wedi colli pob gobaith am achubiaeth, ond fe ddaeth neges ar y radio yn dweud: "Mae'n Nadolig. Fe fyddwch yn gweld eich gwragedd a'ch plant unwaith eto."

Roedd y neges wedi ei hanfon gan griw bad achub o Gaergybi, oedd, gyda chriw o Foelfre, ar eu ffordd i achub y 15 Groegwr.

Image copyright Liverpool Daily Post
Image caption Dic Evans gyda'r dynion yr oedd ei griw wedi eu hachub yn 1966

Cafodd criw y Nafsiporos eu hachub dros gyfnod o 24 awr, ac fe dderbyniodd yr 17 aelod o griwiau gwirfoddol y badau achub fedalau am eu hymdrechion.

Hyd heddiw, dyma un o'r digwyddiadau mwyaf nodedig yn hanes gwasanaeth yr RNLI.

Nawr, mae un o longwyr y Nafsiporos, Anestis Rokopoulos, sy'n 73 oed ac oedd yn ail swyddog ar y llong y diwrnod hwnnw, wedi penderfynu diolch i'r rhai a'i achubodd.

Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghaergybi ddydd Gwener er mwyn i Mr Rokopoulos ddiolch i'r dynion ddaeth i gynnig cymorth y diwrnod hwnnw yn 1966.

Image copyright RNLI
Image caption Anestis Rokopoulos (canol) gyda'i wraig a'i wyres, yn sefyll ger Dion Theodorou (dde). Cafodd ewythr Mr Theodorou ei achub o'r Nafsiporos hefyd
Image copyright Nathan Williams
Image caption Pump o griw bad achub Caergybi oedd yn rhan o'r ymdrech i achub y Groegiaid