Canfod corff yn Sir Benfro wrth chwilio am ddynes ar goll

Isle of Inishmore ferry Image copyright Irish Ferries

Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud bod corff wedi'i ganfod yn ardal Lawrenni, Sir Benfro, wrth chwilio am ddynes ar goll.

Daw wedi i'r awdurdodau fod yn chwilio drwy'r bore ym Môr Iwerddon, yn dilyn adroddiadau bod dynes ar goll o fferi.

Fe wnaeth Irish Ferries gysylltu â'r gwasanaethau am 08:15 fore Gwener, gan bod un teithiwr ar goll a phryder ei bod wedi cwympo i'r dŵr.

Roedd y llong, Isle of Inishmore, wedi gadael Penfro nos Iau, ac mae bellach wedi cyrraedd Rosslare.

Bu Gwylwyr y Glannau Prydain ac Iwerddon, yn ogystal â thimau bad achub Dinbych-y-pysgod, Llansteffan a Gofan, yn chwilio gyda chymorth Heddlu Dyfed Powys.

Cafodd y corff ei ddarganfod yn Afon Cleddau, a dywedodd yr heddlu y byddan nhw nawr yn mynd ati i adnabod y corff yn ffurfiol.

Yn gynharach roedd llefarydd ar ran Irish Ferries wedi dweud bod heddlu Gweriniaeth Iwerddon eisoes wedi chwilio'r llong.

"Mae Irish Ferries wedi cynorthwyo'r heddlu ym mhob ffordd bosib. Mae'r Garda yn hapus nad oes unrhyw amgylchiadau amheus," meddai'r llefarydd.

"Mae'r llong wedi dechrau hwylio unwaith eto [yn ôl tuag at Benfro] ac mae'r Garda wedi dweud eu bod bellach yn chwilio am berson sydd ar goll."