Alarch wedi ei saethu 21 gwaith yn ei ben

Alarch Image copyright Heddlu Dyfed Powys

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth wedi i alarch gael ei saethu 21 o weithiau yn ei ben yn y Gelli Gandryll.

Fe gafodd yr alarch ei ddarganfod mewn pwll gan aelod o'r cyhoedd fore Mercher.

Ar ôl ei ruthro at y milfeddyg roedd rhaid ei ddifa o ganlyniad i'r anafiadau.

Mae'r heddlu yn credu iddo gael ei saethu gyda gwn peled.

Fe ddywedodd y Rhingyll Craig Morgan o Heddlu Dyfed Powys: "Mae trin unrhyw anifail fel hyn yn ofnadwy. Mae swyddogion yr heddlu yn y Gelli Gandryll yn parhau gyda'u hymchwiliad i'r achos."

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio'r rhif 101.

Image copyright Heddlu Dyfed Powys