Cyhoeddi enw dyn fu farw ar yr A499 yng Ngwynedd

Neil Cottrell Image copyright Heddlu Gogledd Cymru

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw wedi gwrthdrawiad ar yr A499 yng Ngwynedd ddydd Iau.

Roedd Neil Cottrell yn 50 oed ac yn dod o ardal Trefor ger Caernarfon.

Bu farw wedi'r gwrthdrawiad rhwng y beic modur yr oedd yn ei yrru a cherbyd Toyota rhwng Llanaelhaearn a Pharc Glasfryn.

Cafodd ei ddisgrifio gan ei deulu fel partner, ewythr a ffrind fydd yn cael ei fethu gan bawb.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad.