Gweilch 31-22 Caeredin

Keelan Giles - un o'r rhai a sicrhaodd fuddugoliaeth i'r Gweilch Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Keelan Giles - un o'r rhai a sicrhaodd fuddugoliaeth i'r Gweilch

Dyma gêm llawn cyffro i'r gwylwyr, saith cais, a'r ceisiau hynny yn dod drwy waith grymus pac y Gweilch ynghyd a rhedeg creadigol y cefnwyr.

Roedd hi'n ymddangos ar adegau y byddai'r sgôr yn nes at sgôr criced na dim arall gyda cheisiadau gan Howells a Baker. Ond daeth Caeredin yn ôl yn gyson, gyda chais gan Helu, ac un cais amheus yn yr hanner cyntaf gan Kinghorn.

Ond yn nechrau yr ail hanner fe gydiodd y Gweilch yn eu cyfleoedd a chydag arweiniad ardderchog Alan Wyn Jones, cicio solet Sam Davies a rhediadau hyfryd Ashley Beck daeth ceisiadau gan Fia a Giles a roddodd fuddugoliaeth gyfforddus i'r tîm o Gymru.

Ond o fewn dau funud i ddiwedd y gêm fe sgoriodd Caeredin un cais cysur i gloi. Gallai'r Gweilch fod wedi sgorio mwy.

Dyma bumed buddugoliaeth y Gweilch o'r bron yn stadiwm Liberty. Mae nhw felly yn ail yn nhabl y Pro12 - pwynt y tu ôl i Munster ar ôl iddyn nhw sgorio yn y munudau olaf yn erbyn Glasgow.