Tottenham Hotspur 5-0 Abertawe

Spurs Abertawe Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraewyr Tottenham Hotspur yn dathlu

Roedd yna dorcalon i dîm pêl-droed Abertawe yn White Hart Lane ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw golli'n drwm yn erbyn Tottenham Hotspur.

Roedd y gôl agoriadol yn un ddadleuol, wrth i Harry Kane sgorio o gic o'r smotyn wedi iddi ymddangos Dele Alli ddeifio i'r llawr o fewn y cwrt cosbi.

Ond fe reolodd Spurs weddill y gêm gyda Son Heung yn sgorio ar ddiwedd yr hanner cyntaf, cyn iddo fe, Kane a Christian Eriksen sgorio yn yr ail hanner.

Mae'r golled yn golygu bod yr Elyrch ar waelod y tabl yr Uwch Gynghrair yn dilyn buddogliaeth gartref i Sunderland yn erbyn Caerlŷr.