Caerdydd 0-0 Brighton

Caerdydd Brighton Image copyright Rex Features
Image caption Mae Glenn Murray wedi sgorio 11 gôl i Brighton yn y bencampwriaeth ond mae e eto i sgorio oddi cartref y tymor hwn

Mae Caerdydd yn codi safle ond yn parhau yn y tri gwaelod yn y Bencampwriaeth wedi gêm gyfartal gartref yn erbyn Brighton.

Gêm ddi-sgôr a di-fflach oedd hi ar y cyfan yn stadiwm Dinas Caerdydd.

Fe gafodd ergyd Aron Gunnarsson ei harbed yn gynnar yn y gêm ond doedd yr un o'r ddwy ochr yn edrych fel petaen nhw'n mynd i hawlio buddugoliaeth.

Fe bwysodd Brighton yn hwyr yn yr ail hanner, ond fe gollon nhw chwaraewr pan gafodd Gaeten Bong ei anfon o'r maes yn yr amser ychwanegol.