Zebre 24-31 Scarlets

Zebre Scarlets Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Jonathan Evans ddau gais i'r Sgarlets guro Zebre

Fe lwyddodd y Scarlets i atal Zebre rhag brwydro'n ôl yn hwyr yn y gêm ddydd Sadwrn, er mwyn selio'u seithfed buddugoliaeth o'r bron yn y PRO12

Fe aeth Zebre ar y blaen yn yr hanner cyntaf wrth i Carlo Canna sgorio dwy gôl adlam cyn ac ar ôl cais Jonathan Evans.

Serch hynny, fe groesodd Aaron Shingler a DTH van der Merwe am geisiau cyn yr egwyl, ac fe sicrhaodd y Scarlets bwynt bonws gyda chais Aled Thomas.

Fe sgoriodd Evans ail gais, ond roedd munudau ola'r gêm yn llawn tensiwn wrth i Federico Ruzza a Giovanbattista Venditti groesi'r llinell.

Mae'r canlyniad yn golygu fod y Scarlets wedi ennill pwynt bonws ym mhob un o'u pum gêm diwethaf.