Leinster 28-15 Dreigiau

Leinster Dreigiau Image copyright Inpho
Image caption Roedd Jack Conan ymhlith sgorwyr Leinster yn y fuddugoliaeth dros y Dreigiau

Profodd Leinster yn rhy gryf i'r Dreigiau nos Sadwrn, yn eu curo o 28 i 15.

Sgoriodd Peter Dooley, Ross Molony a Jack Conan i'r Gwyddelod yn yr hanner cyntaf gan adael mynydd i'w ddringo i'r ymwelwyr.

Fe gafwyd perfformiad mwy ymosodol gan y Dreigiau yn yr ail hanner, gyda cheisiau gan Pat Howard a Sarel Pretorius, ond fe seliwyd y fuddugoliaeth i Leinster wrth i Joey Carbery groesi'r llinell a sicrhau pwynt bonws.

Mae'r canlyniad yn golygu fod y Dreigiau wedi colli pob un o'u gemau oddi cartref yn y PRO12 y tymor hwn. Maen nhw'n nawfed yn y tabl.