Pryder am gyflwr llety ceiswyr lloches

Cyflwr cartrefi

Mae cyflwr gwael rhai cartrefi ceiswyr lloches yng Nghymru'n golygu mai "mater o amser yw hi cyn y bydd damwain yn digwydd", medd Cynghrair Ffoaduriaid Cymru

Mae BBC Cymru wedi darganfod enghreifftiau yng Nghaerdydd ac Abertawe o lety sydd â phroblemau hirdymor, gan gynnwys larymau tân wedi torri, problemau plymio, lleithder a socedi trydanol wedi torri.

Fe wrthododd Clearsprings Ready Homes - sydd â chytundeb Llywodraeth Prydain i ddarparu llety i geiswyr lloches yng Nghymru - a gwneud sylw ar y mater.

Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud ei bod "wedi'i ymrwymo i ddarparu llety diogel" i geiswyr lloches.

Hawl i lety

Yn ôl y ffigyrau swyddogol diweddaraf, mae 2,495 o geiswyr lloches yng Nghymru ar hyn o bryd.

Maen nhw'n cael £36.95 yr wythnos gan Lywodraeth Prydain i dalu am fwyd, dillad a phethau molchi.

Wrth i geisiadau gael eu prosesu, does dim hawl gan geiswyr lloches i weithio, ond mae hawl ganddyn nhw i lety.

Image caption Mae Sohail Ahmed o Bacistan wedi bod yn cael lloches yng Nghaerdydd ers deufis

Fe ffôdd Sohail Ahmed, 25 oed, o Bacistan yn 2012 am ei fod yn ofni erledigaeth, gan adael ei rieni a'i frodyr a'i chwiorydd ar ôl: "Rydych yn gadael eich teulu, eich swydd, eich ffrindiau, eich amgylchedd a bywyd cyfforddus am reswm. Does neb eisiau gwneud hynny.

"Rydych chi'n gadael yr holl bethau hyn a dod fan hyn er mwyn goroesi, i gael lloches, a byw bywyd gwell.

Mae Mr Amhed wedi bod yn ceisio am loches yn y DU ers mis Mehefin, ac mae cael cartref yng Nghaerdydd ers deufis.

Fe aeth rhaglen Sunday Politics BBC Cymru i'r cartref a dod o hyd i larwm tân diffygiol, ffenest ystafell wely nad oedd yn cau yn iawn, carpedi llaith, sinc cegin a bath oedd yn gollwng, a sawl dodrefnyn oedd wedi torri.

Image caption Sohail Ahmed yn dangos rhai o'r problemau yn ei gartref i ohebydd y BBC, James Williams

Roedd y cyflenwad dŵr i sinc y stafell molchi wedi ei atal ers misoedd er mwyn atal dŵr rhag gollwng i'r stafell fyw islaw.

"Wedi i mi ddod yma a gweld y sefyllfa, dwi wedi eu galw nhw (Clearsprings Ready Homes) sawl gwaith, ac maen nhw'n gwneud addewidion ond does dim byd wedi diwydd.

"Weithiau mae angen ystafell wag arnoch chi i lefain ynddi. Pan rydych chi'n meddwl nad oes neb yn gwrando arnoch chi yna ry' chi'n dod i mewn i'r ystafell, cloi'r drws, diffodd y golau a dechrau llefain.

"Yn y pendraw, rydyn ni'n ddynol. Rwy'n sefyll fan hyn nid er fy mwyn i yn unig. Rwy'n credu, os ydw i'n diodde o'r pethau hyn, yna mae miloedd o bobl yn diodde' o'r pethau hyn."

Cytundeb £119m

Mae gan Clearsprings Ready Homes gytundeb £119m gyda Llywodraeth Prydain i ddarparu llety i geiswyr lloches yng Nghymru.

Mae disgwyl i'r cytundeb hwnnw ddod i ben y flwyddyn nesaf, ond mae'r Swyddfa Gartref yn ystyried ei ymestyn.

Fe fu beirniadaeth o'r cwmni yn gynharach eleni oherwydd materion yn ymwneud â'u canolfannau.

Bu Sunday Politics Wales mewn cartref arall yn Abertawe a gweld tystiolaeth o broblemau tebyg yno.

Mae Bethan Jenkins, Aelod Cynulliad dros Orllewin De Cymru, wedi ei galw i weld y problemau fel rhan o'i gwaith gyda Phwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, sy'n cynnal ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches: "Mae teuluoedd eraill yn Abertawe - 'dw i wedi ymweld a rhai ohonyn nhw - yn dweud eu bod yn cael yr un profiad.

"Maen nhw'n dod i dai hen a llaith iawn, gyda nifer o broblemau, ac fe ddylen nhw fod mewn cyflwr derbyniol cyn bod ceiswyr lloches yn cael eu cartrefu yno."

Image caption Cyflwr un llety yn Abertawe

Gwrthododd Clearspring Ready Homes a gwneud sylw, ond mewn ymateb i ymholiad gan Ms Jenkins, fe ddwedon nhw eu bod nhw'n cydnabod bod yna "fater sydd yn amlwg angen ymchwiliad brys".

Mae Cynghrair Ffoaduriaid Cymru yn grwp o 30 o fudiadau sy'n helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Dywedodd Hayley Richards ar ran y grwp: "Mae tystiolaeth Cynghrair Ffoaduriaid Cymru o waith blaenorol gennym yn dangos fod materion fel hyn wedi bod yn broblem i geiswyr lloches ers blynyddoedd, yn nhermau ansawdd llety yng Nghymru.

"Mae ceiswyr lloches ymhlith y bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau.

"Mae yna faterion difrifol yn nhermau iechyd a diogelwch, a dim ond mater o amser yw hi cyn y bydd rhywbeth ofnadwy yn digwydd o fewn llety ceiswyr lloches," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae gan y DU hanes balch o roi lloches i'r rhai sydd angen eu hamddiffyn, ac rydym wedi'n hymrwymo i ddarparu llety diogel tra bo ceisiadau'n cael eu hystyried.

"Os oes problem yn codi yng nghartref ceisiwr lloches, rydym yn disgwyl i'r contractiwr ddatrys hynny cyn gynted â phosib. Os nad yw'r problemau'n cael eu datrys, gallwn gyflwyno cosbau."