Rhybudd i weinidogion rhag rhwystro achos apêl Brexit

Brexit

Mae Ysgrifennydd Cymru'n dweud ei fod yn gobeithio nad yw Llywodraeth Cymru'n ceisio bod yn rhwystr i broses Brexit, wrth ddadlau ei hachos yn yr apêl i'r goruchaf lys.

Dywedodd Alun Cairns y byddai gwneud hynny'n arwain at "fwy o ansicrwydd."

Bydd apêl Llywodraeth Prydain yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys bod yn rhaid i aelodau seneddol gael llais cyn dechrau ar broses Brexit yn cael ei glywed ddydd Llun.

Mae gweinidogion yng Nghymru eisiau cadw penderfyniad yr Uchel Lys ym mis Tachwedd, fod rhaid cynnal pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin cyn y gall Llywodraeth y DU ddechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd..

Mynodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, nad yw Llywodraeth Cymru'n gweithio yn erbyn canlyniad y refferendwm.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ddadlau ei achos yn y Goruchaf Lys ddydd Iau.

Image caption Mae hi'n deg i Lywodraeth Cymru gael dadlau ei hachos yn y Goruchaf Lys, medd Alun Cairns

Dywedodd Mr Cairns wrth BBC Cymru: "Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni gydnabod bod achos Llywodraeth Cymru yn un cyfyng iawn.

"Mae hi ond yn deg ei bod yn cael ei roi gerbron y Goruchaf Lys.

"Ond rwy'n gobeithio ei fod yn cael ei roi mewn modd positif yn hytrach na fel ffordd o rwystro'r broses.

"Wedi'r cyfan, pleidleisiodd Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae dyletswydd arna i fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac ar Lywodraeth Cymru i gymryd cyfrifoldeb er mwyn gwireddu hynny.

"Felly rwy'n gobeithio nad yw'n cael ei ddefnyddio fel cyfle i rwystro'r broses i'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd - byddai hynny'n arwain at fwy o asnicrwydd.

"Rydym yn darparu'r sicrwydd gorau pwysig drwy ddweud y byddwn ni'n dechrau ar gamau Erthygl 50 erbyn diwedd Mawrth, a'n cynllun ni o hyd yw gweithio i'r amserlen honno. "

Mae Llywodraeth Prydain yn honni y gall y Prif Weinidog danio Erthygl 50 o gytundeb Lisbon er mwyn dechrau ar y broses o adael yr Undeb Erwopeaidd trwy ddefnyddio rhagorfraint y goron - grymoedd y mae gweinidogion yn eu defnyddio lle nad oes angen caniatâd ASau.

Ond mae gweinidogion Cymru'n gwrthwynebu hynny, gan honni y gellid defnyddio'r un dull i danseilio datganoli oni bai fod yr apêl yn methu.

Image caption Mae Mick Antoniw yn dadlau na all Llywodraeth Prydain ddechrau proses Brexit trwy ddiystyru cyfansoddiad Prydain

Dywedodd Mr Antoniw, prif gynghorydd cyfriethiol Llywodraeth Cymru: "Fe bleidleisiodd pobl y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, rwy'n parchu hynny a fydda i ddim yn gweithio yn erbyn canlyniad y refferendwm.

"Tra bydd Brexityn digwydd, all Llywodraeth Prydain ddim dechrau'r broses trwy ddiystyru Cyfansoddiad Prydain. Rhaid iddyn nhw weithredu o fewn y gyfraith," meddai Aelod Cynulliad Pontypridd.

"Bydd gadael yr UE yn arwain at newidiadau sylweddol i setliad datganoli Cymru - dim ond Llywodraeth Prydain all wneud y newidiadau hynny, a ddylai gael cytundeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru'n dadlau y byddai dechrau Erthygl 50 yn newid gallu deddfwriaethol y cynulliad a phwerau Llywodraeth Cymru - ond bod angen i'r cynulliad gydsynio i unhryw newidiadau i'w alluoedd.

Yn ymarferol, petai ei angen, byddai angen cael cydsyniad drwy bleidlais yn y Senedd.

Fodd bynnag, mae dadl amlinellol Llywodraeth Prydain wedi gwrthod dadleuon y cwnsler cyffredinol, gan ddweud nad yw'r materion ychwanegol sydd wedi eu codi "yn darparu sylfaen ddaliadwy" i gefnogi penderfyniad yr Uchel Lys.

Straeon perthnasol