Gwobr arbennig i Chris Coleman 'am uno cenedl'

Kit Symons, Chris Coleman a Nathan Blake Image copyright Sporting Wales
Image caption Kit Symons a Chris Coleman yn derbyn gwobr Tîm y Flwyddyn gan Nathan Blake

Mae'r dyn a arweiniodd Cymru i rownd gynderfynol pencampwriaeth Ewro 2016 wedi cael ei anrhydeddu â gwobr arbennig yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru nos Lun.

Fe wnaeth Chris Coleman dderbyn y Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig yn y seremoni yn Neuadd Hoddinott ym Mae Caerdydd.

Y tîm pêl-droed cenedlaethol wnaeth ennill Tîm y Flwyddyn yn y gwobrau yn ogystal.

Mae'r rheolwr 46 oed o Abertawe wedi dod yn arwr cenedlaethol ers arwain y tîm cenedlaethol i'w pencampwriaeth gyntaf ers 58 o flynyddoedd.

Fe gyrhaeddodd Cymru'r rownd gynderfynol gan guro Slofacia, Rwsia, Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg ar hyd y ffordd.

Dan ei reolaeth, dyw Cymru ddim 'chwaith wedi colli gêm yn ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd, ac mae'r tîm yn gorffen y flwyddyn yn y 12fed safle yn nhabl FIFA.

'Anrhydedd addas'

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Mae'r wobr arbennig hon yn anrhydedd addas i ddyn a ddaeth â'r genedl at ei gilydd yr haf hwn.

"Fydd neb yn anghofio'r teimlad arbennig o ddilyn y tîm disglair a roddodd Chris Coleman at ei gilydd ar gyfer Ewro 2016. Mi fydd yn gyffrous cael dathlu ei gyflawniadau eithriadol."

Image copyright PA
Image caption Aelodau tîm Cymru yn cyfarch y cefnogwyr

Ychwanegodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: "Mae ysbrydoliaeth Chris i bobl Cymru wedi mynd y tu hwnt i'r hyn gyflawnodd y tîm.

"Mae ei angerdd a'i anogaeth i bobl freuddwydio, dysgu ac ymdrechu am lwyddiant wedi cyffwrdd â phobl ar draws y wlad.

"Rwy'n falch o allu cydnabod ei lwyddiant gyda'r wobr Cydnabyddiaeth Arbennig."

Mae 14 o wobrau'n cael eu cyflwyno yn ystod y noson, gan gynnwys Tîm y Flwyddyn, Hyfforddwr y Flwyddyn a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng Chwaraeon Cymru a BBC Cymru.