Tân yn nhŵr eglwys Biwmares

Eglwys Biwmares Image copyright Google

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân yn nhŵr eglwys Biwmares ar Ynys Mon brynhawn ddydd Sul.

Fe gafodd gwasanaeth tân ac achub y gogledd i ei alw ddechrau'r prynhawn a chafodd tri pwmp eu defnyddio i ddiffodd y fflamau.

Un a welodd y mwg yn codi o'r eglwys oedd y cynghorydd tref, Dan Jones. Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Roedd y tân yn y tŵr lle mae'r clychau a chloc y dref.

"Doedd neb yn yr eglwys ar y pryd, ond roedd cyngerdd i fod yno am 15:00 ac roedd y gwres wedi ei roi ymlaen.

"Ry ni'n meddwl bod y tân wedi dechrau tua 13:30. Fe welon ni'r mwg yn dod o'r tŵr ac roedd cloc y dre wedi stopio am 13:50.

"Mae'r boeler yn y tŵr, a fa'na mae'r switchboard a'r pethau trydanol i gyd.

"Doedd dim tân 'di mynd drwyodd i'r eglwys ei hun.

"Faswn i'n meddwl fod 'na dipyn o ddifrod yng ngwaelod y tŵr, ond mae'r clychau'n saff, yr wyth ohonyn nhw."

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod yn cynnal ymchwiliad i achos y tân.