Brexit: Dadl Llywodraeth Cymru yn 'aml-gymalog'

Brexit

Mae Llywodraeth Prydain wedi disgrifio dadl gan brif ymgynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, sy'n dweud y byddai dechrau proses Brexit heb ymgynghori gyda Senedd Prydain yn tanseilio datganoli, fel un cymhleth ac "aml-gymalog".

Mae'r Goruchaf Lys yn Llundain yn cynnal gwrandawiad i apêl gan Lywodraeth Prydain yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys oedd wedi dyfarnu fod yn rhaid derbyn sel-bendith aelodau seneddol cyn i'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd ddechrau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cael rhoi ei barn ar y mater ddydd Iau.

Dywedodd Cwnsler Cyffredinol Cymru Mick Antoniw ei fod yn ceisio cynnal democratiaeth a chyfraith gwlad.

Mae Llywodraeth Prydain yn honni y gall y Prif Weinidog Theresa May gychwyn mecanwaith Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon fyddai'n dechrau ar y broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd drwy ddefnyddio uchelfraint frenhinol - sef grymoedd sy'n cael eu defnyddio gan weinidogion nad oes angen caniatad aelodau seneddol i wneud hynny.

Image caption Cwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw AC

Ond mae Mr Antoniw wedi dadlau y byddai dechrau'r broses yma yn "addasu cymhwysterau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru."

Dywedodd yr AC dros Bontypridd fod rheol o'r enw Confensiwn Sewel yn golygu fod angen ymgynghori gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru am benderfyniadau gan San Steffan ar faterion datganoledig.

Ond mewn cyflwyniad ysgrifenedig i'r Goruchaf Lys cyn dechrau'r gwrandawiad fe wnaeth Llywodraeth y DU wrthod y ddadl hon.

Pwysleisiodd nad oedd "ymddygiad cysylltiadau tramor", gan gynnwys rhai gyda'r Undeb Ewropeaidd, yn faterion oedd wedi eu datganoli i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ychwanegodd y cyflwyniad: "Mae'r ymgais droellog gan y Cwnsler Cyffredinol ... i gynhyrchu perthnasedd i Ddeddf Lywodraeth Cymru o gyfraith Ewrop s. 154(2) yn arwydd trawiadol o brinder ei enghreifftiau."

'Dim ymyrraeth'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns ei fod yn gobeithio nad oedd Llywodraeth Cymru'n ymyrryd yn yr apêl yn y Goruchaf Lys mewn ymdrech i rwystro Brexit.

Ychwanegodd fod y mwyafrif o bobl Cymru ac ar draws y DU wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond wrth siarad gyda BBC Radio Wales ddydd Llun, dywedodd Mr Antoniw: "Nid oes gan hyn ddim i'w wneud gyda'r refferendwm - does ganddo ddim i'w wneud yn benodol gyda Brexit neu ei gryfderau a'i wallau.

"Mae hyn yn ymwneud a'r broses gyfansoddiadol gywir er mwyn gwneud newidiadau cyfansoddiadol sylweddol," meddai wrth raglen Good Morning Wales.

"Rydym wedi gweld datblygiad ers y 300 mlynedd diwethaf cyfres o reolau cyfansoddiadol sy'n dweud mai'r Senedd sy'n sofran, y Senedd sy'n gwneud y penderfyniadau allweddol, ac nid oes modd defnyddio uchelfraint frenhinol i wyrdroi deddfwriaeth, hawliau unigolion neu ddemocratiaeth seneddol."