Dyn yn cyfaddef achosi marwolaeth dynes mewn gwrthdrawiad

sophie Image copyright Llun teulu

Mae dyn wedi cyfaddef iddo achosi marwolaeth dynes ifanc pan darodd ei char BMW yn erbyn tŷ yng Nghaerdydd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Sophie Taylor wedi marw pan aeth ei char allan o reolaeth a tharo'r tŷ yn ardal Adamsdown o'r brifddinas.

Fe wnaeth Michael Wheeler, 22 oed, gyfaddef i achosi ei marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn ystod rasio honedig rhwng ceir.

Mae dyn 21 oed, oedd yn eistedd yn sedd flaen BMW Sophie Taylor, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad ym mis Awst.

Fe wnaeth Michael Wheeler hefyd gyfaddef ei fod wedi achosi anaf difrifol i'r dyn o achos ei yrru peryglus.

Mae gyrrwr arall, Melissa Pesticcio, o Lanrhymni, Caerdydd wedi ei chyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus ond nid yw hi wedi cynnig ple eto.

Clywodd y llys fod Wheeler, o Dremorfa, Caerdydd, wedi bod yn gyrru ar ôl Sophie Taylor yn ei gar Vauxhall Corsa du cyn y gwrthdrawiad.

Fe wnaeth Lewis Hall, hefyd o Dremorfa, a oedd yn ôl honiadau, yn teithio yng nghar Wheeler ar y pryd, ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.