Rygbi: Dim mwy o gemau i George North nes asesiad

George North Image copyright Getty Images
Image caption George North yn dilyn cyfergyd yn erbyn Caerlyr dros yr penwythnos

Mae clwb rygbi Northampton Saints wedi datgan na fydd asgellwr Cymru, George North yn cael chwarae eto nes iddo gael ei asesu gan arbenigwr annibynnol ar anafiadau i'r pen.

Mae North wedi dioddef nifer o gyfergydion i'w ben gan gynnwys un yn y gêm yn erbyn Caerlŷr dros y penwythnos.

Er i feddygon Northampton ganiatáu i North chwarae ymlaen yn y gêm mae yna gwestiynau wedi codi ynglŷn â diogelwch y chwaraewr.

Yn dilyn y gêm fe wnaeth Northampton rhyddhau datganiad yn amddiffyn y penderfyniad i ganiatau North i chwarae ymlaen.

'Diogelwch yn flaenoriaeth'

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y clwb: "Roedd George wedi ei asesu'n llawn gan y meddyg i ffwrdd oddi wrth y cae gan ddilyn canllawiau World Rugby ac roedd wedi ei basio'n ffit i ddychwelyd i'r maes.

"Os bysai'r tîm meddygol wedi bod yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth o gyfergyd yn ystod yr asesiad yna ni fyddai George wedi cael dychwelyd yn ôl i'r maes."

Tydi George North ddim yn dioddef yn dilyn yr anaf dros y penwythnos ond mae Northampton wedi cyhoeddi fod "diogelwch y chwaraewyr yn flaenoriaeth".

"Felly byddwn yn cyfeirio George at arbenigwr annibynnol ar anafiadau i'r pen, ac o ganlyniad i hyn mi fydd George yn sefyll lawr o'i ddyletswyddau chwarae nes i'r broses yma ddod i ben," medd eu datganiad.