Arwerthiant arwyddion Aberystwyth yn codi £15,000

Charles Raw-Rees
Image caption Fe dalodd Charles Raw-Rees £500 am arwydd y stryd ble mae ei swyddfa wedi ei lleoli

Mae'n debyg bod arwerthiant arwyddion stryd yn Aberystwyth wedi codi dros £15,000 i amgueddfa.

Aeth dros 200 o arwyddion dan y forthwyl wedi i'r dref eu cyfnewid am rai newydd.

Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion oedd yn cynnal y digwyddiad i gefnogi prosiect newydd yn yr amgueddfa.

Fe ddaeth tua 150 o bobl i'r arwerthiant, gan gynnwys y gwerthwr tai Charles Raw-Rees, a dalodd £500 - y swm mwya' - am arwydd stryd Y Ffynnon Haearn.

Mae swyddfa Mr Raw-Rees ar y stryd honno, a dywedodd bod yr arwydd "wedi bod uwchben fy swyddfa am lawer o flynyddoedd ac mae'n bryd iddo ddod adre."

Fe gafodd yr arwyddion eu tynnu i lawr fel rhan o brosiect gwerth £800,000 i wella delwedd Aberystwyth.

Image copyright Ceredig Davies
Image caption Cafodd yr arwyddion gwyn eu cyfnewid am rai glas mewn arddull Edwardaidd