Gwraig y cyn chwaraewr rygbi Scott Gibbs yn ddifrifol wael

Kate Weaver-Gibbs a Scott Gibbs Image copyright Kaidi Photography
Image caption Fe briododd Scott Gibbs a Kate Weaver-Gibbs yn 2014 yn Ne Affrica

Mae gwraig y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Scott Gibbs yn ddifrifol wael yn yr ysbyty yn yr Eidal ar ôl cael ei tharo gan feic modur.

Cafodd Kate Weaver-Gibbs, 32 oed, ei brifo brynhawn dydd Gwener wrth iddi hi a'i gŵr gerdded ger eu cartref yn Verona.

Mae'n debyg bod Ms Weaver-Gibbs, sydd yn dod o dde Cymru, yn cael triniaeth yn ysbyty Boro Trento yn y ddinas.

Ar wefannau cymdeithasol, mae ei theulu'n annog ffrindiau i weddïo y bydd yn gwella.

Mewn datganiad dywedodd ei theulu ei bod wedi dioddef anafiadau difrifol i'w phen a'i hasgwrn cefn.

Mae hi mewn cyflwr difrifol ond sefydlog, gyda'i theulu agosaf wrth ochr ei gwely yn yr ysbyty. Chafodd Scott Gibbs ddim ei anafu yn y digwyddiad.

'Cefnogaeth aruthrol'

Fe briododd Scott Gibbs a Kate Weaver-Gibbs yn 2014 yn Ne Affrica. Yn 2009 fe symudodd y cwpl i Colorado ac yna i Dde Affrica.

Fe chwaraeodd Gibbs 53 gwaith i Gymru ac roedd yn rhan o dair taith y Llewod cyn iddo ymddeol yn 2004.

Mae Gibbs wedi diolch am y "gefnogaeth aruthrol" mae ei wraig a'r teulu wedi ei gael gan yr ysbyty a gan ffrindiau o bob cwr o'r byd.

Mae hefyd wedi gofyn i bobl barchu preifatrwydd y teulu mewn cyfnod anodd.