Metro De Cymru: Gofyn i'r Undeb Ewropeaidd i helpu ariannu Metro De Cymru

Metro Image copyright Llywodraeth Cymru
Image caption Map o gynllun Metro De Cymru

Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyflwyno'r achos dros gynllun Metro De Cymru wrth ymweld â Brwsel ddydd Mercher.

Wrth gyfarfod â'r Comisiwn Ewropeaidd, bydd Carwyn Jones yn dweud fod y Metro yn "llawer mwy na chynllun trafnidiaeth yn unig".

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £369 miliwn ar gyfer y prosiect dros y pedair blynedd nesaf, ac mae'n gofyn am £110 miliwn pellach gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Fe fydd y Prif Weinidog yn gofyn am sicrwydd y bydd y Comisiwn yn parhau i gefnogi'r cynllun, ac na fydd y trafodaethau ynglŷn â Brexit yn effeithio arno.

'Cynnal y momentwm'

Bwriad cynllun y Metro ydi cael rhwydwaith trafnidiaeth newydd, a chyfan gwbl integredig ar gyfer De Cymru. Ond cyn teithio i Frwsel, dywedodd Prif Weinidog Cymru: 'Heb os nac oni bai mae canlyniad refferendwm yr UE wedi codi pryderon ynghylch darparu ein rhaglenni cyfalaf mawr sy'n cael cyllid gan Ewrop ar hyn o bryd."

Mae Carwyn Jones yn gobeithio cael sicrwydd gan y Comisiwn Ewropeaidd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gael cymorth ar gyfer prosiect y Metro yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Mae'n dweud fod angen 'cynnal y momentwm' er mwyn sicrhau fod y prosiect yn cael ei gymeradwyo cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae'r Metro yn llawer mwy na chynllun trafnidiaeth yn unig," meddai, " Mae'n gatalydd ar gyfer gweddnewid rhagolygon economaidd a chymdeithasol ein gwlad."

"Mae'r datblygiad uchelgeisiol hwn yn cysylltu pobl a swyddi ar draws De Cymru, gydag amseroedd teithio cyflymach a gwasanaethau amlach. "

Mae'r trafodaethau ynglŷn â'r Metro yn un o gyfres o gyfarfodydd fydd gan y Prif Weinidog ym Mrwsel. Bydd hefyd yn cyfarfod â Karmenu Vella, y Comisiynydd dros yr Amgylchedd, Materion Morol a Physgodfeydd, a Gianni Pittella ASE, Llywydd Grŵp y Sosialwyr a'r Democratiaid yn Senedd Ewrop.

'Dim awgrym'

Dywedodd pennaeth Comisiwn Ewrop yng Nghymru, David Hughes: "Tra bod y DU yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, mae ganddi'r un hawl a chyfrifoldebau ag aelodau eraill.

"Mae hyn yn golygu y bydd ceisiadau am gyllid yn cael eu trin yn yr un modd.

"O ystyried beth fydd yn digwydd ar ôl i'r DU adael, ni allwn wneud sylw ar hyn o bryd gan nad yw'r DU wedi rhoi rhybudd o dan Erthygl 50 o'i bwriad i adael nac wedi rhoi unrhyw awgrym o'r hyn y mae'n chwilio amdano naill ai yn nhermau'r berthynas yn y dyfodol nac unrhyw drefniadau yn y cyfamser."