Tata: 'Addewid i gadw swyddi' yn dilyn trafodaethau

Port Talbot
Image caption Mae mwy na 4,000 yn gweithio ar safle Port Talbot

Mae cwmni dur Tata wedi addo cadw swyddi a pharhau i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot a gweithfeydd eraill yn y DU.

Roedd Tata wedi dweud ym mis Mawrth y bydden nhw'n gwerthu eu holl safleoedd ym Mhrydain yn sgil colledion enfawr.

Bu cynrychiolwyr o undebau Community, Unite a'r GMB yn cwrdd ddydd Mercher er mwyn trafod cytundeb posib gyda chwmni Tata a fyddai'n sicrhau dyfodol y safleoedd dur.

Mae disgwyl i gynigion diweddaraf y cwmni gynnwys cytundeb gwaith ble byddan nhw'n ceisio osgoi unrhyw ddiswyddiadau gorfodol am bum mlynedd, a bod y ddwy ffwrnais bresennol yn parhau i gael eu defnyddio ar safle Port Talbot.

Byddai buddsoddiad o £1bn yn cael ei wneud dros gyfnod o ddeng mlynedd er mwyn cefnogi gweithfeydd Port Talbot, a safleoedd sydd yn dibynnu ar y gwaith hwnnw.

Mae disgwyl i Tata hefyd ymgynghori ar newid i'r system bensiynau ar gyfer gweithwyr.

"Mae mwy o waith eto i'w wneud er mwyn sicrhau bod Tata Steel UK yn gynaliadwy yn ariannol," meddai cyfarwyddwr busnes y cwmni yn Ewrop, Koushik Chatterjee.

"Ond rwy'n hyderus y bydd yr holl randdeiliaid yn gwneud popeth y gallen nhw i geisio sicrhau y bydd y cwmni yn gallu cyflawni ei chynllun yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf."

'Blwyddyn anodd'

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd tu hwnt i'r gweithwyr dur a'u teuluoedd," meddai Roy Rickhuss, ysgrifennydd cyffredinol undeb Community, wrth groesawu'r newyddion.

"Pan gyhoeddodd Tata 'nôl ym mis Mawrth eu bod yn bwriadu gwerthu'r gweithfeydd, doedd neb yn gwybod a fyddai ganddyn nhw swydd erbyn y Nadolig.

"Byddai'r cynnig hwn yn sicrhau swydd am flynyddoedd i ddod ac yn dod â buddsoddiad sylweddol nid yn unig i Bort Talbot ond i weithfeydd dur ar draws y DU."

Image copyright Getty Images

Ychwanegodd swyddog cenedlaethol Unite, Tony Brady ei bod hi'n amser nawr i Lywodraeth San Steffan sicrhau bod addewidion Tata yn cael eu cadw, a dywedodd undeb GMB bod "rhagor i'w wneud" er gwaethaf y "cam ymlaen" diweddaraf.

Wrth groesawu'r newyddion dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu £4m i ddatblygu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr Tata.

"Mae hyn yn newyddion da ar gyfer dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru ac yn hwb enfawr i'r diwydiant," meddai.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n ddiflino gyda Tata i ddod o hyd i ffordd gynaliadwy ymlaen ac i sicrhau na fyddai'r gweithfeydd yn cau, ac mae'r cyhoeddiad hwn yn gam mawr ymlaen."

'Ymladd dros y diwydiant'

Ychwanegodd AC Ceidwadol Gorllewin De Cymru, Suzy Davies: "Yn amlwg mae 2016 wedi bod yn gyfnod anodd iawn i ardal Port Talbot, ac rwy'n hynod falch bod y darlun yn edrych yn fwy positif wrth i ni edrych tuag at y flwyddyn newydd.

"Y cam nesaf fydd sicrhau dyfodol hyfyw a llewyrchus i ddur yng Nghymru, ond i wneud hynny bydd yn rhaid i wleidyddion o bob plaid sefyll gyda'i gilydd i ymladd dros y diwydiant."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ymateb lleol i gyhoeddiad Tata

Fe wnaeth llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price groesawu "ychydig o sicrwydd i weithwyr dur a'u teuluoedd - yn enwedig adeg yma'r flwyddyn".

"Mae hwn yn gytundeb enfawr fydd yn cael effaith ar nifer fawr o bobl, ac er ein bod yn gyffredinol yn croesawu'r hyn sy'n cael ei gynnig, ni fyddwn yn rhoi ein barn nes ein bod yn gwybod yr holl fanylion ac - yn hanfodol - sut y bydd yn effeithio ar weithwyr dur yn y dyfodol, a'r hyn y mae'n ei olygu i'w llewyrch ac i'r ardaloedd ble mae safleoedd dur yng Nghymru," meddai.

'Angen sicrhau dyfodol'

Mae Tata yn cyflogi bron i 7,000 o bobl yng Nghymru, gan gynnwys mwy na 4,000 ym Mhort Talbot.

Safleoedd eraill fyddai'n elwa o gytundeb gyda'r undebau fyddai Llanwern, Trostre a Shotton yng Nghymru, ynghyd â Corby, Hartlepool a lleoliadau yng nghanolbarth Lloegr.

Yn y gorffennol mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi cynnig cymorth ariannol er mwyn achub y diwydiant, ond credir bod cost y cynllun pensiwn wedi bod yn ffactor negyddol wrth i Tata geisio gwerthu.

Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru dywedodd Nia Griffith, AS Llanelli ac aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar ddur: "Be' sydd angen nawr yw neges glir iawn oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau dyfodol tymor hir y diwydiant dur.

"Dy'n ni eisiau gweld cyfyngu ar brisiau ynni, cyfyngu ar dreth carbon, creu chwarae teg i'r diwydiant a diogelu ein diwydiant rhag mewnforion o China."