Gatland yn enwi Rob Howley yn nhîm hyfforddi'r Llewod

Rob Howley and Warren Gatland Image copyright Rex Features
Image caption Mae Rob Howley wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Warren Gatland gyda Chymru ers 2008

Mae Warren Gatland wedi enwi Rob Howley ymysg ei hyfforddwyr cynorthwyol ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn 2017.

Bydd Andy Farrell a Steve Borthwick hefyd yn rhan o'r tîm hyfforddi ar gyfer y gyfres yn erbyn y Crysau Duon yr haf nesaf.

Roedd Howley a Farrell ymysg yr hyfforddwyr aeth ar daith ddiwethaf y Llewod dan arweiniad Gatland, pan drechwyd Awstralia yn 2013.

Bydd y garfan o chwaraewyr yn cael eu dewis ar 19 Ebrill, yn dilyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

McBryde i arwain Cymru

Mae Gatland wedi cymryd blwyddyn allan o'i rôl fel prif hyfforddwr Cymru er mwyn arwain taith y Llewod i wlad ei febyd.

Howley sydd wedi bod yn gyfrifol am y crysau cochion yn absenoldeb Gatland, ond yn absenoldeb y ddau bydd Robin McBryde wrth y llyw ar gyfer taith Cymru i Ynysoedd y Môr Tawel yn 2017.

Mae Borthwick, a enillodd 57 cap dros Loegr fel chwaraewr, wedi bod yn hyfforddi blaenwyr Lloegr ers cael ei benodi gan Eddie Jones llynedd.

Farrell oedd hyfforddwr amddiffyn Lloegr nes y llynedd, ac mae bellach yn gwneud yr un swydd gyda thîm Iwerddon.