Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

Heol y Gogledd Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger y ganolfan ambiwlans ar Heol y Gogledd

Mae dyn 70 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar un o ffyrdd prysuraf Caerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Heol y Gogledd am 12:10 ddydd Mercher ble roedd car Peugeot arian wedi taro wal.

Fe gafodd y gyrrwr ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ble cafodd ei gyhoeddi'n farw.

Roedd dynes yn teithio yn y car hefyd ond ni chafodd ei hanafu. Doedd dim cerbyd arall yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Bu'r ffordd ar gau am awr a hanner tra bo'r heddlu yn adfer y cerbyd ac yn cynnal eu hymchwiliad cychwynnol.

Mae teulu'r dyn fu farw yn cael cefnogaeth gan swyddogion yr heddlu, ac mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.

Mae Heddlu'r De wedi apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â'r llu gan ffonio 101.