Cymorth Cristnogol: Croesi mewn cwch o Ynyslas i Aberdyfi

Ffoi o Fethlehem i'r Aifft Image copyright Cymorth Cristnogol

Bydd taith staff a chefnogwyr Cymorth Cristnogol o Fethlehem, Sir Gâr i'r Aifft yn Sir Ddinbych yn cyrraedd Ynyslas ddydd Iau.

Bwriad y teithwyr yw croesi mewn cwch o Ynyslas i Aberdyfi er mwyn tynnu sylw at brofiadau ffoaduriaid ar draws y byd.

Yn ystod y daith 140 milltir mae Anna Jane Evans o Gymorth Cristnogol wedi bod yn anfon ei phrofiadau a dyma rai ohonynt hyd yma:

Image caption Gwaith ffoadur yn Eglwys Llanwenog

"Cawsom gyfle ar ddiwedd ein taith nos Sul i fynd i Eglwys Llanwenog a gweld gwaith saernïaeth coed arbennig iawn Joseph Reubens, ffoadur o wlad Belg.

"Mae'r ddarllenfa yn drawiadol gan mai draig sy'n cael ei dangos ac nid eryr.

"Gwrthododd Joseph gerfio eryr gan mai symbol o'r trydydd Reich oedd hwnnw - a phenderfynodd lunio draig Gymreig ar y ddarllenfa i fynegi gwerthfawrogiad am y croeso a'r gofal a dderbyniodd yng Nghymru ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Mae'n debyg bod tua 4,500 o ffoaduriaid Gwlad Belg wedi derbyn croeso yng Nghymru yn y dyddiau duon a thlawd yn dilyn y rhyfel ac mae eu cyfraniad i'n gwlad yn dal i gael ei weld ond i ni edrych."

"Dydd Mawrth. Taith bellach heddiw - cerdded hyfryd ar hyd lawr y dyffryn o Lanbed i Lanfair Clydogau lle roedd criw o gefnogwyr unwaith eto wedi paratoi gwledd i'n sbarduno 'mlaen!

"Dilyn ochr chwith yr afon i Lanio a throi am Stags Head.

"Aros am 'chydig wrth gapel Llwynpiod cyn gorffen ein taith yn Nhyncelyn.

"Croeso anferth arall yn ein haros yn Nhregaron a noson Nadoligaidd yng nghwmni Cymdeithas Capel Bwlchgwynt a Blaencaron."

Image caption Cynulleidfa groesawgar yn Nhregaron

Dywedodd Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru, Huw Thomas: "Gyda thymor y Nadolig yn agosáu, cofiwn fel y bu raid i Iesu a'i deulu ffoi i'r Aifft i ddianc rhag trais Herod.

"Heddiw, mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda phobl sydd mewn sefyllfa debyg, gan ddarparu cymorth dyngarol megis bwyd, meddyginiaeth a phecynnau glendid, mewn gwersylloedd ffoaduriaid ar draws y byd.

"Mae'r daith gerdded hon yn fodd nid yn unig i godi arian hanfodol i gynnal ein gwaith, ond hefyd i dynnu sylw i'w dioddefaint, a herio'r ffordd y mae'r cyfryngau a'r llywodraeth wedi bod yn portreadu ffoaduriaid."

Bydd y daith yn para nes nos Iau 15 Rhagfyr ac yn gorffen mewn pentref bychan o enw Yr Aifft. Y noson honno bydd gwasanaeth arbennig yn Eglwys Llanelwy.

Ar y ffordd mae'r teithwyr yn croesawu ymwelwyr a chyfraniadau ariannol.