Amlyn a Wara Waghi

Amlyn PNG
Image caption Amlyn yn ymlacio gyda pherfformwyr ym mhentre Kup ar ei ymweliad cyntaf yn 2005

Mae 'na dros ddeng mlynedd ers i'r cerddor Amlyn Parry o'r Groeslon ger Caernarfon weithio fel athro cerdd yn un o gymunedau brodorol ucheldiroedd Papua Guinea Newydd.

Yn ddiweddar mi aeth Amlyn yn ôl i gyfarfod hen ffrindiau a recordio rhywfaint o gerddoriaeth leol yr ardal. Mae'n rhannu ei brofiadau yn I'r Gwyllt: Papua New Guinea.

Roedd Amlyn yn awyddus bod yna gofnod o ddoniau cerddorol ar gael cyn i'r bobol ifanc droi eu cefnau ar gerddoriaeth draddodiadol wrth i'r diwylliant gorllewinol dreiddio trwy'r gymdeithas.

Fe ranodd Amlyn ei argraffiadau o'i daith wreiddiol i'r wlad gyda Cymru Fyw a pham ei fod wedi penderfynu mynd yn ôl yno.


Unwaith nes i gyrraedd i'r wlad, roedd hi reit amlwg ei fod yn fyd hollol wahanol hefyd. Roedd pobl yn byw mewn ffordd wahanol i ni adre yn Nghymru.

Doedd gan ran helaeth o'r boblogaeth ddim swyddi. Yn hytrach, byw oddi ar y tir a gwerthu'r hyn oedd dros ben am 'chydig o bres oedden nhw er mwyn gallu prynu olew neu halen. Adre, ac yn eu pentrefi yr oedd y rhan fwyaf o bobl yn treulio'u holl ddyddiau.

Yn ôl yr ystadegau, mae'r wlad yn cael cryn dipyn o bad press am fod yn lle peryg a threisgar ond ro'n i yn teimlo yn saffach yno nag adre ar adegau. Roedd pobl yn gyfeillgar dros ben, a'r pentrefwyr yn gwneud yn siŵr eu bod yn edrych ar eich hôl yn dda.

Aelod o'r teulu

Ym mhob man yr es i, roedd pobol yn fy nhrin fel y bydden nhw'n trin eu mab eu hunain, a byddwn innau'n dilyn eu trefn nhw gan alw pobol yn Mama a Papa, Brata neu Susa (Mam a Dad, Brawd neu Chwaer).

Yn 2005, yn 19 oed yr es i Papua Guinea Newydd. Mynd fel gwirfoddolwr VSO (Voluntary Service Overseas) i weithio am flwyddyn fel athro cerdd mewn ysgol oeddwn i. Roedd yr ysgol gerdd mewn pentref bach o'r enw Ganige ar lan yr afon Wagi, ond pan gyrhaeddais y pentref, doedd dim ysgoldy yno a doedd gen i ddim hyd yn oed dŷ i fyw ynddo.

Image caption Cyfarfod hen ffrindiau

Acwstig

Felly, roedd rhaid dechrau ar y gwaith adeiladu. Yn y cyfamser roedd hefyd rhaid ceisio darganfod beth oedd bwriad a chyfeiriad yr ysgol newydd yma a thrio sefydlu rhyw fath o gwricwlwm, cyn hyd yn oed dechrau meddwl am gael myfyrwyr.

Ro'n i yn cydweithio ag athro lleol a daethom i'r casgliad mai ymarfer cerddoriaeth a chyfansoddi fyddai prif weithgaredd a phwrpas yr ysgol hon. Cafodd yr ysgol bres gan yr adran addysg i brynu offerynnau acwstig a thrydanol, a generadur (gan fod dim trydan yn y pentref).

Yn ddyddiol roedd y myfyrwyr yn ymarfer ac yn cyfansoddi caneuon, ac yn rheolaidd roedden ni fel ysgol yn mynd o amgylch y dalaith i berfformio gigs gan atynnu dipyn o dorfeydd.

Roedd gen i hiraeth mawr am y wlad a'i phobl felly dyna pam 'nes i benderfynu mynd yn ôl yn ystod Gaeaf 2015 i weithio ar brosiect unigryw fy hun.

Image caption Amlyn yn dysgu sut i chwarae un o'r offerynnau traddodiadol ar ei ymweliad diweddaraf

Dros 800 o ieithoedd

Mae yna dros 820 o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad yn y wlad - sydd yn cyfrif am 12% o ieithoedd y byd - a fy mwriad oedd cyfarfod â chynifer o lwythi ieithyddol gwahanol ag sy'n bosib gan geisio dwyn perswâd arnynt i gyd-gyfansoddi cerddoriaeth newydd.

Mi wnes i deithio o ardal i ardal, o lwyth i lwyth, yn cario dim ond ychydig o eiddo personol ynghyd ag offer recordio. Ro'n i yn aros am ychydig o ddyddiau fel gwestai ym mhob pentref ac yn creu a recordio cerddoriaeth newydd ym mhob lle.

Y gobaith oedd adeiladu casgliad o ganeuon i adlewyrchu'r cyfuno a'r cyfnewid celfyddydol ddigwyddodd dros yr wythnosau hyn.


Ar ol dod nôl i Gymru recordiodd Amlyn gân newydd, Wara Waghi yn arddull pop Papua Guinea Newydd. Mae hanner y gân yn iaith Tok Pisin a'r hanner arall y gan yn Gymraeg.

(Addasiad ydy hon o erthygl sgwennodd Amlyn i Cymru Fyw cyn ymweld a Papua Guinea Newydd am yr eildro yn 2015)

Image caption Amlyn gyda cherddorion yn Ysgol Gerdd Ekinye nôl yn 2005