Cyhuddo dau ddyn, 18 a 49 oed, o gipio yng Nghasnewydd

Casnewydd Image copyright Google
Image caption Mae'r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad ar Heol Commercial

Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o gipio yn dilyn digwyddiad yng Nghasnewydd ddydd Mawrth.

Dywedodd Heddlu Gwent bod dynes 22 oed wedi cael anafiadau i'w phen wedi'r digwyddiad ar Heol Commercial am tua 11:00.

Mae disgwyl i'r dynion, sy'n 18 a 49 oed ac o'r ardal, ymddangos yn y llys yn ddiweddarach.

Y gred yw bod y dynion wedi bod yn teithio mewn Citroen DS3 du gyda tho gwyn, ac mae'r heddlu yn apelio am fwy o wybodaeth am y digwyddiad.