Cyhoeddi enw dynes fu farw ar ôl mynd ar goll o fferi

Isle of Inishmore ferry Image copyright Irish Ferries
Image caption Roedd adroddiadau bod dynes ar goll o fferi Isle of Irishmore

Mae'r heddlu wedi cadarnhau enw dynes gafodd ei darganfod yn farw yn Sir Benfro ar 2 Rhagfyr.

Roedd Jennifer Massi yn 24 ac o Lundain.

Bu gwasanaethau brys yn chwilio Môr Iwerddon yn dilyn adroddiadau bod dynes ar goll o fferi oedd yn teithio rhwng Penfro a Rosslare.

Cafodd y ddynes ei darganfod yn ardal Lawrenni yn Sir Benfro yn ddiweddarach.

Cafodd cwest i'r farwolaeth ei agor a'i ohirio ddydd Mercher.

Straeon perthnasol