Euro 2016: Dyna chi fis!

Dinard
Image caption Derbyn y cyntaf o lu o fathodynnau er mwyn cael mynediad i ganolfan darlledu Cymru yn Dinard

Doeddwn i heb fy ngeni yn 1958, ond fel plentyn y 60au rydw i wedi disgwyl yn hir i weld llwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol. Roedd y gorfoledd o gyrraedd Euro 2016 felly yn fyw yn y cof wrth lanio ym maes awyr bach Dinard yn Llydaw.

Roedd nerfusrwydd hefyd.

Doedd neb yn ymwneud â charfan Cymru erioed wedi cael y profiad o fod dan chwyddwydr y cyfryngau fel hyn o'r blaen.... neb o'r chwaraewyr wedi profi bod dan y fath bwysau am gyfnod mor hir.

Y noson wedi i mi gyrraedd roedd y criw darlledu o'r BBC ac S4C - oedd yn cynnwys nifer o gyn-chwaraewyr rhyngwladol - yn eistedd o gwmpas y bwrdd cinio gan drafod eu gobeithion. Rhanedig oedd y farn, ac roedd yma nerfusrwydd.

Diflannodd rhai o fy mhryderon i y bore canlynol pan ddaeth sesiwn ymarfer agored cynta'r tîm.

Roedd canolfan cyfryngau Cymru yn lle trefnus a chroesawgar ac wrth i bob sianel deledu a phob papur newydd dan haul geisio cael llun neu ddyfyniad (gan Gareth Bale yn bennaf) roedd hi'n gwbl amlwg bod y tîm wedi ymlacio ac yn barod am yr her.

Image caption Fe deithiodd Malcolm Allen a Dylan Ebenezer i'r gêm mewn dull unigryw!

Bordeaux

Fe gyrhaeddon ni Bordeaux ar y p'nawn Gwener cyn y gêm gyntaf yn erbyn Slofacia... mewn pryd i weld hanes yn cael ei greu.

Cynhadledd newyddion UEFA yn y Stade Velodrôme oedd y gyntaf erioed i gael ei chynnal yn rhannol yn Gymraeg. Swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Cymru oedd wedi mynnu bod hynny'n digwydd - y cyntaf o sawl digwyddiad i dynnu sylw at yr iaith yn ystod y gystadleuaeth, a phob clod i Ian Gwyn Hughes a'i dîm am hynny.

Image caption Y gynhadledd newyddion gan UEFA lle cafodd y Gymraeg ei defnyddio am y tro cyntaf erioed

Roedd cysgu y noson honno yn anodd. Roedd Ffrainc wedi ennill gêm agoriadol Euro 2016 ac roedd strydoedd canol Bordeaux yn ferw gwyllt o Ffrancwyr yn dathlu a Slofaciaid a Chymry yn cymdeithasu (!) yn ddedwydd - roedd yr awyrgylch yn syfrdanol.

Ychydig wedi hanner nos - gyda chwsg ymhell i ffwrdd - daeth sŵn mawr o'r stryd ger ein gwesty. Roedd rhaid mynd allan i gael gweld beth oedd achos y sŵn, a dyna lle'r oedd golygfa ryfeddol...

Roedd tua 250 o bobl wedi cael gafael ar bêl-droed ac yn chwarae'r gêm fwyaf erioed ar hyd un o strydoedd mwya'r ddinas.

Cwsg neu beidio, roedd y criw darlledu yn effro ac yn nerfus ar fore'r gêm. Wrth i ni ymgynnull y tu allan i'r gwesty fe ddaeth i'r amlwg bod cyfanswm o ymhell dros 100 o gapiau rhyngwladol yn eiddo i'r criw!

Image caption Y criw darlledu cyn y gêm gyntaf yn Bordeaux

Ond er gwaethaf profiad mawr pobl fel Kevin Ratcliffe, John Hartson a'r gweddill roedd pawb fel hogiau bach yn cael mynd i weld eu gêm gyntaf erioed.

Roeddwn i ar ddyletswydd yn y ffanbarth yn Bordeaux, ond gan fod mwyafrif llethol y Cymry oedd wedi dod draw wedi cael tocyn i'r gêm dim ond rhyw 200 o Gymry oedd yno'n gwmni i mi o flaen y sgrin anferth.

10 munud - GÔL! Gareth Bale - pwy arall - gyda chic rydd. Ar y blaen ar yr egwyl ond yna - O NA! - Slofacia'n gyfartal. Roedd yr amser yn hedfa - i ble'r aeth yr awr ddiwethaf?

Wedyn cyfle - Hal Robson-Kanu - GÔL ARALL! Faint o amser sydd ar ôl? Roedd munudau oedd wedi teimlo fel eiliadau ychydig yn gynt nawr yn pasio fel oriau, ond yna daeth y chwib olaf.

Rhan o fy ngwaith oedd ceisio holi cefnogwyr ar ddiwedd y gêm, ond go brin fod y sgyrsiau yna wedi gweld golau ddydd. Roedd y dagrau'n powlio - fi a nhw - wrth i'r hyn yr oedd Cymru wedi'i gyflawni suddo mewn.

Roedd cerdded trwy ganol Bordeaux y noson honno yn brofiad cwbl swreal.

Fe allech chi fod wedi bod ar unrhyw stryd yng Nghaernarfon, Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Pwllheli neu Ruthun...beirdd a llenorion, gwleidyddion, plismyn a chyfreithwyr ac o leia' un barnwr (a do fe weles i bob un o'r rhain) yn chwerthin, crio, meddwi, crio mwy a chwerthin mwy.

Pe bai Euro 2016 wedi dod i ben yn Bordeaux fe fyddai'r Cymry oedd wedi disgwyl ers 1958 yn hapus eu byd.

Image caption Cefnogwyr Cymru yn destun balchder

Lille/Lens

Ond yna daeth Lille.

Roedd adroddiadau o'r trafferthion gyda chefnogwyr Rwsia a Lloegr yn Marseille wedi ein cyrraedd, ac roedd yr awdurdodau yn Lille yn barod. Yn Lens rhyw 12 milltir i ffwrdd oedd y gêm rhwng Cymru a Lloegr, ond roedd Slofacia a Rwsia'n wynebu'i gilydd yn Lille y noson gynt ac roedd llawer o gefnogwyr y pedair gwlad yn aros yn Lille gan fod Lens yn dref mor fach.

Dyma'r unig feirniadaeth oedd gen i o'r awdurdodau oedd yn trefnu'r gystadleuaeth - ni ddylai'r sefyllfa yma fod wedi codi o gwbl, ond diolch byth mai ychydig iawn o drafferth go iawn a gafwyd.

Fe ddaeth sawl siom ar ddiwrnod y gêm wrth gwrs.

Fel cefnogwr Manchester United, mae cyn-ymosodwr Arsenal a Lloegr, Martin Keown, wedi bod yn destun gwawd ers blynyddoedd ac roeddwn i bron isho iddo fo fod yn ddyn blin anghynnes. Y 'siom' oedd gweld ei fod yn ŵr bonheddig ddaeth i ysgwyd llaw pawb o dîm darlledu Cymru cyn y gêm a dymuno'r gorau i ni.

Er gwaethaf gôl arall gan y "peiriant creu embaras" (chwedl Nic Parry), doedd cynnig Bale ddim yn ddigon i rwystro Cymru rhag colli yn y modd mwyaf creulon gyda chic ola'r gêm bron.

Image caption Dylan Jones a Gethin Morris Williams o Radio Cymru yn teithio gyda fi mewn tacsi ym Mharis

Toulouse

Roedd y tywydd a'r hwyliau yn well erbyn cyrraedd dinas odidog Toulouse. Wedi'r blynyddoedd o ddisgwyl, roedd cefnogwyr Cymru wedi gwneud y mwyaf o'r cyfle yn Ffrainc ac roedden nhw ar eu gorau unwaith eto.

Pe byddai unrhyw wlad wedi mynd ati i ddewis miloedd o lysgenhadon, fyddai neb wedi medru dewis gwell.

Yn heulwen Toulouse roedd canol y ddinas yn goch a'r canu yn atseinio ymhell - er mae'n rhaid i mi gyfadde' bod 'Don't Take Me Home' eisioes wedi dechrau mynd ar fy nerfau.

Ond roedd rhywun yn rhywle yn gwrando. Perfformiad ysgubol, buddugoliaeth haeddiannol o 3-0 yn erbyn Rwsia, a doedd Cymru ddim yn mynd adre.

Pan ddaeth y newyddion bod Lloegr a Slofacia wedi cael gêm gyfartal - a bod Cymru felly wedi ennill y grŵp - fe gawsom wireddu'r gân arall oedd i'w chlywed ar Radio Cymru a Rhedeg i Paris.

Image caption Erbyn cyrraedd Paris, doedd dim dillad glan ar ôl!

Paris

Gêm i'w anghofio oedd yr un yn erbyn Gogledd Iwerddon. Bale yn creu ond gôl i'w rwyd ei hun gan Gareth MacAuley druan a'i setlodd hi, ond roedd Cymru yn yr wyth olaf.

Er iddyn nhw wneud hynny yn 1958 a 1976 (o dan amgylchiadau gwahanol) dyma'r tro cynta i Gymru gyflawni'r gamp yn oes y cyfryngau modern. Roedd llygaid y byd ar Gymru.

Y noson honno daeth y foment fwyaf cofiadwy i mi'n bersonol o'r holl gystadleuaeth. Fe wnes i gyrraedd nôl i'r gwesty tua'r un adeg â gweddill y criw darlledu.

Roedd rhes o gyn-chwaraewyr rhyngwladol - Kevin Ratcliffe, John Hartson, Malcolm Allen, Iwan Roberts ac Owain Tudur Jones - yn sefyll y tu allan i'r gwesty.

Doedd dim dathlu gwyllt, dim alcohol, dim ond pobl oedd wedi profi'r cyfan yn yr Uwchgynghrair a'r llwyfan rhyngwladol eu hunain yn sefyll yn dawel yn cofleidio'i gilydd.

Fe ges i 'bear-hug' gan Iwan Roberts dagreuol. Moment fydd yn aros yn y cof am byth.

Image caption Roedd cefnogwyr Hwngari yn Bordeaux yn gwmni da

Lille...eto!

Roedd Lille yn lle cwbl wahanol heb gefnogwyr Rwsia, ac mae'n rhaid son am gefnogwyr y gwledydd eraill hefyd.

Roedd cefnogwyr Cymru eisoes wedi gwneud ffrindiau newydd o Slofacia, Lloegr, Gogledd Iwerddon ac o blith cefnogwyr go iawn Rwsia hyd yn oed.

Ychwanegwch at hynny y cefnogwyr o Hwngari a Sweden oedd wedi digwydd bod yn yr un lle â'r môr coch ac roedd atgofion melys ymhobman.

Ond yn Lille fe wnaeth y Belgiaid glosio at galonnau pawb.

Image caption Er bod cefnogwyr Cymru mewn lleiafrif bychan iawn yn ffanbarth Lille, roedden nhw'n gwneud digon o swn

Mae Lille yn agos iawn at y ffin â Gwlad Belg, ac o ganlyniad roedd y Cymry mewn lleiafrif bach y tro hwn. Roedd y ffanbarth ond rhyw 200 llath o'r orsaf rheilffordd Eurostar ac roedd nifer o Gymry yn neidio ar drên i ddod adre wedi'r gêm.

Pan sgoriodd Sam Vokes y drydedd i sicrhau buddugoliaeth ysgubol arall i Gymru fe fyddai wedi bod yn ddigon hawdd i'r Belgiaid fod wedi gadael yn ddistaw a siomedig a'i throi hi am adre.

Yn lle hynny, fe wnaeth cefnogwyr Gwlad Belg greu llwybr o'r ffanbarth i'r orsaf a chymeradwyo wrth 'hebrwng' cefnogwyr Cymru ar eu ffordd i'w trên.

Image caption Owain Llyr, Iwan Roberts a Dylan Griffiths (yn ei grys pinc lwcus!) yn dathlu'r fuddugoliaeth yn Lille

Lyon

Roedd cardiau melyn i Aaron Ramsey a Ben Davies yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg yn golygu na fyddai'r ddau ar gael ar gyfer y rownd gynderfynol yn erbyn Portiwgal yn Lyon.

Roedd crys pinc lwcus Dylan Griffiths yn fudr ac roedd o wedi gorfod gwisgo crys arall.

Doedd pethau ddim yn argoeli'n dda!

Doedd dim amdani ond ceisio mwynhau dinas brydferth Lyon a gobeithio am y gorau ymysg y miloedd oedd wedi gwneud y daith o Gymru i gefnogi - diolch amdanyn nhw bob un.

Mae'r canlyniad yn y llyfrau hanes.

Colli fu hanes gwŷr dewr Chris Coleman o 2-0 yn erbyn Portiwgal (aeth ymlaen i ennill yr holl gystadleuaeth), ond dwi'n amau dim y byddai holl gefnogwyr Cymru yn cytuno â mi ar ddiwedd yr antur fwyaf erioed i'r tîm pêl-droed cenedlaethol.

Fyddwn i ddim wedi bod yn fwy balch o'r tîm pe baen nhw wedi mynd i'r ffeinal ac ennill - fyddai hynny ddim yn bosibl - ac un gair sy'n crynhoi'r cyfan...

DIOLCH.

Image copyright Getty Images
Image caption Gareth Bale yn diolch i'r cefnogwyr yn Lyon
Image caption Pan ddaeth y diwedd yn Lyon roedd cefnogwyr Cymru mor driw ag erioed