Plentyn wedi anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ym Môn

llangefni

Mae plentyn wedi cael ei cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn nhref Llangefni, Ynys Môn.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod y gwrthdrawiad wedi digwydd am 15:45 y prynhawn, ar y gyffordd rhwng Bryn Pandy a Ffordd Corn Hir.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i gar Seat llwyd daro'r plentyn, ac fe gludwyd y plentyn mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty gyda'i rhiant.

"Mae ein hymchwiliad yn parhau a hoffwn glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd a welodd y gwrthdrawiad neu'r digwyddiadau yn arwain ati," meddai'r sarsiant Emlyn Hughes o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru.

Roedd ffordd y B5109 ar gau am gyfnod yn dilyn y digwyddiad, ond mae bellach wedi ailagor.

Fe ddylai unrhyw un all fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio Uned Blismona Ffyrdd yr heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod U184524, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ger cyffordd Ffordd Corn Hir yn arwain at Bryn Pandy