Beth sy'n gwneud ysgol dda?

plas mawr

Beth sy'n gwneud ysgol dda? Dyna gwestiwn sy'n cael ei ofyn yn gyson gan athrawon, rhieni ac wrth gwrs y disgyblion.

Ymhlith ysgolion Cymru sydd wedi profi llwyddiant yw Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar daeth yr ysgol i frig rhestr flynyddol ysgolion gwladol gorau Cymru yn The Sunday Times.

Y Pennaeth yw John Hayes. Bu'n sôn wrth Cymru Fyw am rai o'r heriau sy'n rhaid eu hwynebu mewn byd addysg mor gystadleuol:


'Yr hinsawdd iawn'

Buaswn i'n dweud mai blaenoriaeth ysgol dda yw lles y disgyblion a lles y staff. Oni bai ein bod ni'n gofalu am les emosiynol ein staff a'n disgyblion dyw e ddim yn creu yr hinsawdd iawn i ddysgu.

Felly mae angen yr hinsawdd iawn, mae angen i'r sylfaeni fod yn eu lle, mae angen staff ymroddgar sy'n barod i fynd y filltir ychwanegol yn aml. Mae angen cymuned glós sy'n gweithio'n agos gyda'u rhieni i sicrhau bod y disgyblion a'r rhieni yn cydweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod gofal a bod yr awyrgylch iawn yn y cartref.

Mae angen i bawb gydweithio tuag at yr un nod a rhannu yr un blaenoriaethau a'r dyhead i wella ac i lwyddo, a phan mae'r elfennau yna i gyd yn eu lle dyna i fi yw'r syflaeni ar gyfer ysgol sydd yn sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i lwyddo.

Mae'n bwysig cael cyfoeth o arlwy allgyrsiol, ac mae'n bwysig trio datblygu y plentyn yn gyfan. Un elfen o hynny yw datblygiad academaidd, ond mae 'na lot mwy i addysg na'r hyn sy'n mynd 'mlaen yn y 'stafell ddosbarth.

Mae cael cynigion allgyrsiol cryf fel chwaraeon, cerddoriaeth a drama yn bwysig i roi y cyfle i blant gymryd rhan mewn prosiectau tu fas i'r 'stafell ddosbarth. Dyma rai o'r ffactorau i daclo pethau fel salwch meddwl ac iselder - bod plant yn cael cyfleuon i fod yn brysur, a dim yn sownd i'w ffonau ac ar y we. Mae nhw'n gallu hefyd datblygu sgiliau gweithio fel rhan o dîm.

Mae'r ysgol wedi cael cryn lwyddiant gyda chwaraeon dros y blynyddoedd diwethaf, gyda thîm pêl-droed o'r ysgol yn ddiweddar yn ennill Pencampwriaethau Prydain. Mae tri pêl-droediwr ifanc o'r ysgol wedi mynd ymlaen i ennill cytundebau proffesiynol yn ddiweddar.

'Pwysau i weld cynnydd'

Mae pob ysgol dan bwysau y dyddiau yma i wneud cynnydd a dangos ei bod yn perfformio'n dda. Mae'r elfen gystadleuol 'ma, yn anffodus, wedi dod mewn oherwydd ffactorau fel arolygon Estyn (y corff arolygu addysg) sy'n hynod o bwysig, a'r categoreiddio cenedlaethol, sy'n rhoi label i ysgol ac yn ei gwneud hi'n bosib i'w cymharu. Mae'r elfen hon o gymharu, i raddau, yn gorfodi ysgolion i drio eu gorau i wella drwy'r amser.

Mae yna ddisgwyliad bod pob ysgol yn gwneud cynnydd parhaus, a dydy hynny ddim yn ymarferol bosib drwy'r amser gan fod pwynt yn dod ble gallwch chi ddim gwella ar yr hyn yr ydych chi wedi ei gyflawni yn barod. Er bod pob ysgol yng Nghymru eisiau bod yr ysgol orau yn y wlad, mae'n anffodus bod yna elfen o gystadleuaeth yn gorfod dod mewn i bethau.

Image caption Roedd sgôr disgyblion Cymru mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg yn is na chyfartaledd y 72 o wledydd neu economïau oedd yn rhan o'r profion

Mae'n siomedig i ddarllen y penawdau a gweld arolwg rhyngwladol PISA ble mae Cymru eto yn ymddangos, o gymharu â'r gwledydd eraill, ar ei hôl hi.

Dwi ddim cweit yn ei weld fel yna, gan ei bod yn beryg cymharu systemau sydd mor wahanol i'w gilydd ac mae yna dipyn o gyhoeddusrwydd wedi bod i hyn y cyfryngau Cymraeg yn ddiweddar, gyda'r arbrawf lle aeth disgyblion o sir Benfro i Dde Corea a chymharu y ddwy system addysg. Roedd hwnna yn amlygu yn gwbl y pwyslais mae un cyfundrefn yn ei roi ar addysg yn wahanol i ni.

Be dwi'n ei weld fel pennaeth ar hyn o bryd yw bod pwysau aruthrol ar ysgolion i wella ac i lwyddo - mae 'na gost iddo fe, ar lles disgyblion a lles y staff.

Bron yn wythnosol nawr ry'n ni'n clywed bod nifer o ddisgyblion a phobl ifanc mewn nifer o ysgolion yn dioddef o salwch meddwl, iselder, hunan-niweidio. Mae sawl ffactor ynghlwm ag e, ond beth rwy'n ei weld yw bod lot fawr o ddisgyblion yn y sefyllfa fregus iawn hon oherwydd y pwysau academaidd sydd ar eu hysgwyddau.

Mae 'na gost i'r pwyslais ar ysgolion i wneud gwelliant parhaus, ar adeg pan mae yna gyllid yn cael ei dynnu oddi ar wasanaethau y trydydd sector. Mae'r gwasanaethau cefnogol dan bwysau mawr hefyd.

Mae gwasnaethau iechyd meddwl pobl ifanc yn orlawn, ac fel ysgolion ry'n ni'n teimlo ychydig yn ynysig yn gorfod delio efo'r materion sydd ganddom ni yn yr ysgol. Mae'r sgiliau sydd angen bellach ar unrhyw ysgol yn mynd yn llawer pellach nag athro da yn y 'stafell ddosbarth. Mae angen cefnogaeth y staff a thîm ategol arnom ni i ofalu am les y disgyblion.

Hoffwn i weld cynnydd yn y gefnogaeth cyfrwng Cymraeg sydd i'r ysgol pan fod angen cefnogaeth allanol arno ni gyda disgyblion sydd efallai efo anghenion dysgu ychwanegol, neu sydd yn dioddef o iselder ysbryd a salwch meddwl. Dyna beth sydd ei angen ar ysgolion yng Nghymru.

Dyw'r gefnogaeth ddim yna ar hyn o bryd ac o ganlyniad 'da ni'n teimlo ychydig yn ynysig yn gorfod delio gyda'r materion anodd hyn sy'n codi ar ein liwt ein hunain.

Image copyright Google
Image caption Mae Ysgol Plasmawr yn ardal y Tyllgoed yng ngorllewin Caerdydd