Ymgynghori ar sefydlu ysbyty newydd yn Y Rhyl

Byddai'r cynlluniau'n golygu adleoli rhai adnoddau o Ysbyty Brenhinol Alexandra Image copyright Google
Image caption Byddai'r cynlluniau'n golygu adleoli rhai adnoddau o Ysbyty Brenhinol Alexandra

Fe fydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi eu barn ar drefniant iechyd newydd ar gyfer gogledd Sir Ddinbych.

Mae'r cyngor yn ymgynghori am eu bwriad i sefydlu ysbyty newydd wrth ymyl safle presennol Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y Rhyl.

Byddai'r ysbyty'n cynnig adnoddau gan gynnwys ward cleifion mewnol, cyfleusterau adsefydlu ac uned therapi mewnwythiennol.

Fe fyddai hefyd yn golygu adleoli adnoddau o Ysbyty Brenhinol Alexandra, fyddai'n cael ei adnewyddu a'i ddefnyddio ar gyfer staff a gwasanaethau cefnogi.

Mae'r cynlluniau'n cael eu harddangos yn Y Rhyl ddydd Sadwrn a dydd Mawrth, ac ym Mhrestatyn ddydd Iau.