Buddugoliaeth swmpus i Abertawe

Sigurdsson scores for Swansea Image copyright Rex Features
Image caption Gylfi Sigurdsson sgoriodd y cyntaf

Mae Abertawe wedi codi o waelod yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth werthfawr a swmpus yn erbyn Sunderland.

Golygai'r canlyniad fod yr Elyrch yn esgyn uwchben West Ham, Hull a Sunderland.

Ar ôl hanner cyntaf cystadleuol mewn amodau anodd, fe wnaeth cic o'r smotyn Gylfi Sigurdsson roi'r tîm cartref ar y blaen yn yr ail hanner, gan ryddhau ychydig o'r tensiwn yn Sadiwm Liberty.

Cic gornel gan Sigurdsson arweiniodd at yr ail gôl gyda Fernando Llorente yn rhywdro.

A'i beniad ef i gefn y rhwyd wnaeth sicrhau y pwyntiau, ac ail fuddugoliaeth i'r rheolwr Bob Bradley.

Golygai'r canlyniad fod gan Abertawe 12 pwynt, yr un nifer â West Ham a Hull ond gyda gwell gwahaniaeth goliau.

'Angen adeiladu'

Fe wnaeth Bradley bump o newidiadau o'r tîm gollodd 5-0 yn erbyn Tottenham yr wythnos diwethaf.

"Y gair wnaethom ni ddefnyddio gyda'r chwaraewyr yr wythnos hon oedd balchder, and roeddem am sicrhau nad oeddwn am ildio goliau. Rwy'n fodlon a hynny," meddai Bradley.

"Mae'n deimlad da i fod yn fuddugol. Dyw e heb ddigwydd yn ddigon aml y tymor hwn. Mae'n helpu ac mae'n ysbrydoli'r dorf.

"Mae'n dangos fod y cefnogwyr y tu cefn i'r tîm. Ma' hi wedi bod yn amser anodd ond maen nhw'n gwybod sut i godi'r chwaraewyr.

"Mae'n bwysig ein bod yn mwynhau'r achlysur ond ni allwn golli ffocws. Mae angen adeiladu ar y canlyniad."