Gohirio gêm Casnewydd oherwydd cyflwr y cae

Newport County Image copyright Huw Evans picture agency

Yn dilyn glaw trwm yn y de ddwyrain dydd Sadwrn fe benderfynodd y dyfarnwr y bod yn rhoi'r gorau i'r chwarae rhwng Casnewydd a Morcecambe yn yr Ail Adran oherwydd cyflwr y cau yn Rodney Parade.

Gwnaeth y dyfarnwr Brendan Malone ei benderfyniad yn ystod yr egwyl.

Roedd Casnewydd, sydd ar waelod yr Ail Adran, ar y blaen ar y pryd diolch i gôl Tom Owen-Evans, ei gyntaf i'r clwb.