Cyhuddo dyn o geisio llofruddio perchennog siop

Police cordon outside Costcutter store Image copyright @deeside.com

Mae dyn o Lannau Dyfrdwy wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio perchennog siop yn dilyn lladrad honedig yn Queensferry.

Mae Matthew Liam Whelan, 29, o Mancot hefyd wedi ei gyhuddo o ddwyn o siop Imtiaz Ul Haq, 58 ddydd Iau diwethaf.

Fe wnaeth y perchennog siop ddioddef anafiadau cyllell difrifol i'w wddw yn dilyn y lladrad honedig a bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth.

Mae dyn arall, Leslie Peter Baines, 47 oed o Gei Connah, yn wynebu cyhuddiad o ladrata yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa a byddant yn ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ar 6 Ionawr.

Image copyright Andrew Price
Image caption Fe fydd Matthew Whelan (chwith) a Leslie Baines gerbron Llys y Goron ym mis Ionawr