Wrecsam 0-1 Tranmere

Mae Wrecsam allan o gwpan yr FA Trophy ar ôl colli gartref yn yr ail rownd yn erbyn Tranmere Rovers.

Peniad Ritchie Sutton o gic rydd Jeff Hughes oedd unig gol y gêm.

Fe ddylai Jordan White wedi dod a'r sgôr yn gyfartal cyn yr egwyl ond fe arbedodd Scott Davies yn wych o'i beniad.