Cynghorwyr Môn yn gwrthwynebu peilonau newydd ar yr ynys

Peilonau

Mae cynghorwyr ar Ynys Môn wedi pleidleisio'n unfrydol i wrthwynebu cynllun cwmni National Grid i godi ail res o beilonau trydan ar draws yr ynys.

Maen nhw'n gawl ar y cwmni i osod ceblau tanddaearol er mwyn cludo trydan o safle Wylfa Newydd yn hytrach na chodi peilonau.

Mewn cyfarfod ddydd Llun, cafodd National Grid ei gyhuddo o ddangos "dirmyg" tuag at bobl yr ynys, gan roi elw o flaen diddordebau pobl.

Tra'n cydnabod bod barn pobl leol yn bwysig, mae'r National Grid yn dweud ei fod yn gorfod ei fesur yn erbyn "gofynion technegol a chyfreithiol".

Roedd y cynghorwyr yn trafod cynllun y cwmni mewn cyfarfod cyffredinol, a hynny er mwyn cytuno ar eu sylwadau fel rhan o'r broses ymgynghori.

Fe wnaeth llythyr gan gynghorwyr i'r Grid honni bod y cyngor yn "cymeradwyo'r farn gadarn a fynegwyd yn helaeth gan drigolion Ynys Môn".

Y bwriad yw codi ail res o beilonau i gysylltu'r atomfa arfaethedig Wylfa Newydd ger Bae Cemaes a gorsaf drydan Pentir yng Ngwynedd.

Byddai'r peilonau'n cael eu codi yn ymyl rhes arall sy'n bodoli'n barod.

'Tirwedd yn allweddol'

Ble mae'r llinell yn croesi ardal ddynodedig o brydferthwch eithriadol ar lan y Fenai, mae'r Grid yn cynnig adeiladu twnnel a gosod y ceblau dan ddaear.

Yn ei lythyr i'r ymgynghoriad mae Prif Weithredwr Cyngor Ynys Môn, Dr Gwynne Jones yn dweud mai "tanddaearu'r gwifrau yn llwyr" yw'r unig opsiwn y mae'r cyngor yn ei ystyried fel un derbyniol.

"Byddai ail linell yn arwain at sgil-effeithiau sylweddol ar dirwedd yr ynys sydd yn peri gofid difrifol," meddai.

"Mae'r tirwedd yn allweddol ar gyfer twristiaeth, sef 'asgwrn cefn' economi Sir Fôn, yn ogystal â lles trigolion, busnesau a chymunedau'r ynys yn y dyfodol."

Mae'r aelod cynulliad lleol Rhun ap Iorwerth, a'r aelod seneddol Albert Owen hefyd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau.

Dywedodd Aled Rowlands, Rheolwr Cysylltiadau Allanol y Grid Cenedlaethol wrth BBC Cymru eu bod wedi derbyn adborth sylweddol gan bobl leol yn ystod ymgynghoriad 10 wythnos o hyd.

"Dros y misoedd nesaf byddwn ni'n edrych ar ein cynlluniau ni fel ag y maen nhw, ac yn gweld os all yr adborth yna ein helpu ni i'w gwella nhw," meddai.

"Mae'r hyn mae pobl leol, y cyngor lleol a gwleidyddion lleol yn ei ddweud wrthon ni yn bwysig a byddwn ni'n ystyried y sylwadau yma wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau.

"Ein rôl ni yw pwyso a mesur y pethau yma yn erbyn gofynion technegol a chyfreithiol, i sicrhau bod y cysylltiad â'r Grid yn gywir ac yn cynnig gwerth am arian.

"Yr Arolygiaeth Gynllunio fydd yn penderfynu yn y pendraw os ydyn ni wedi gwneud y penderfyniad cywir."

Beth nesaf?

Mae ymgynghoriad y Grid Cenedlaethol yn cau ddydd Gwener, 16 Rhagfyr.

Bydd y corff yn cyflwyno eu cais cynllunio i'r Arolygiaeth Gynllunio yn hydref 2017.

Bydd yr arolygiaeth wedyn yn cynghori Llywodraeth y DU prun ai i roi sêl bendith i'r cynlluniau ai peidio.

Mae'r cyfan yn ddibynnol ar y cynllun i godi atomfa niwclear Wylfa Newydd.

Mae'r datblygwyr Pŵer Niwclear Horizon yn anelu at gyflwyno eu cais cynllunio hwythau yn 2017 hefyd.