Lansio mesur anghenion dysgu ychwanegol

Alun Davies
Image caption Alun Davies: "Dydy'r system bresennol ddim yn addas i'r diben mwyach"

Bydd deddf newydd yn fodd o sicrhau y bydd mwy o bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael canlyniadau academaidd gwell, yn ôl Gweinidog Dysgu Gydol Oes Cymru, Alun Davies.

Petai'r mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Thribiwnlys Addysgol yn cael cefnogaeth aelodau'r Cynulliad, dywed Mr Davies y bydd yn trawsnewid y system bresennol yn llwyr.

Fe allai'r drefn newydd ddod i rym erbyn 2019.

Y llynedd 23% o ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol wnaeth sicrhau pump TGAU, o'i gymharu â 59% o holl ddisgyblion Cymru.

Yn ôl y ddeddfwriaeth newydd byddai trefn newydd wrth asesu anghenion pobl hyd eu bod yn 25 oed.

Ar hyn o bryd mae plant gydag anghenion dysgu yn cael 'datganiad', ond byddai hyn yn cael ei ddisodli gan Gynllun Datblygu Unigol.

Bydd y ddeddf yn cyflwyno'r term newydd 'anghenion dysgu ychwanegol' yn lle'r termau 'anghenion addysgol arbennig' ac 'anawsterau ac/neu anableddau dysgu'.

'Carreg filltir bwysig'

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae bron i chwarter y rhai o fewn y gyfundrefn addysg yng Nghymru yn gofyn am rywfaint o gymorth dysgu ychwanegol yn ystod y cyfnod cynnar.

"Dydy'r system bresennol ddim yn addas i'r diben mwyach, a bydd y Bil hwn yn dod â'r fframwaith deddfwriaethol cyfan i mewn i'r unfed ganrif ar hugain, a fydd yn ein galluogi i roi cymorth effeithiol i ddysgwyr ag ADY drwy gydol eu taith addysgol," meddai Mr Davies.

"Dyma garreg filltir bwysig i addysg yng Nghymru sy'n ganlyniad i fisoedd a misoedd o waith gyda'n partneriaid, gan gynnwys athrawon, rhieni, llywodraeth leol, y GIG, a'r trydydd sector."

Image copyright Thinkstock

Nodau cyffredinol y mesur yw creu:

  • fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed sydd ag ADY mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach;
  • proses integredig, gydweithredol o asesu, cynllunio a monitro sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol;
  • system deg a thryloyw o ddarparu gwybodaeth a chyngor ac o ddatrys pryderon ac apeliadau.

Dywedodd Ywain Myfyr, Swyddog Maes Cynorthwyol gydag UCAC ei fod yn bryderus am effaith y mesur newydd ar yr iaith Gymraeg.

"Da ni'n credu y dylai'r bil hwn fod yn cynnwys datganiad diamwys sy'n nodi'r disgwyliadau o ran y ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai.

"Beth bynnag yw'r iaith mae'r plentyn yn ei siarad fe ddylai'r ddarpariaeth yna fod ar gael yn y famiaith ac yn sicr o ran y Gymraeg yng Nghymru."

Yn dilyn ymgynghoriad ar y cynllun drafft dros yr haf fe wnaeth nifer o'r undebau athrawon fynegi pryderon am rai agweddau o'r ddeddfwriaeth.

Fe wnaeth undebau'r ATL NAHT Cymru, UCAC ac UCU ddweud bod angen i Anghenion Dysgu Ychwanegol gael "eu hariannu yn iawn, gyda mesurau yn eu lle i rwystro toriadau gan awdurdodau lleol i gyllideb ADY".

Dywedodd yr undebau hefyd bod angen eglurdeb llwyr ynglŷn â'r broses hollbwysig o asesiadau, gan fynnu hefyd y dylai sefydliadau addysgol gael mynediad i wasanaethau arbennig fel seicolegwyr a therapyddion lleferydd.