Toulon 31-20 Scarlets

Leigh Halfpenny Image copyright Getty Images
Image caption Leigh Halfpenny

Roedd grym corfforol yn ddigon i Toulon wrth iddynt sicrhau buddugoliaeth yn erbyn y Scarlets yng Nghwpan y Pencampwyr.

Fe wnaeth y tîm cartref sicrhau mantais o 11 pwynt ar yr egwyl gyda Mamuka Gorgodze, Leigh Halfpenny a Romain Taofifenua yn croesi.

Ac ar ôl 51 munud o chwarae daeth y pwynt bonws, gyda Guilhem Guirado yn cael cais o sgarmes symudol.

Ken Owens a John Barclay groesodd i'r Scarlets.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Toulon yn yr ail safle yn y grŵp gyda naw pwynt, pum pwynt y tu ôl i Saracens.

Pedwar pwynt sydd gan y Scarlets ar ôl i'r tiamau chwarae tair gêm.

Fe fydd y Scarlets a Toulon yn wynebu ei gilydd yn Llanelli unwaith eto ddydd Sul nesaf.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Ken Owen yn sgorio cais cyntaf Scarlets