Ymchwiliad i lofruddiaeth wedi marwolaeth Cymro yn Lerpwl

Paul Groom Image copyright Heddlu Glannau Mersi

Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi ei lansio ar ôl i ddyn o Gymru farw yn dilyn ymosodiad arno yn Lerpwl.

Bu farw Paul Groom, 48, yn yr ysbyty nos Sadwrn yn dilyn yr ymosodiad arno yn gynharach yn yr wythnos.

Mae'r heddlu yn credu bod rhywun wedi ymosod ar Mr Groom, sy'n wreiddiol o Wrecsam, mewn tŷ yn ardal Kirkby fore Iau.

Fe wnaeth ei gyflwr waethygu yn y dyddiau yn dilyn yr ymosodiad, ac fe gafodd barafeddygon eu galw i'w gartref yn ardal Fazakerley fore Sadwrn, ond bu farw'n ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Fe wnaeth profion post mortem ddarganfod ei fod wedi marw o ganlyniad i drawiadau i'w ben.